91福利社

Explore the 91福利社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
91福利社 Cymru'r Byd - Creu Cenedl

91福利社 91福利社page
Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

91福利社 Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Ll锚n
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol Coleg Prifysgol Caerdydd
Coleg Prifysgol Caerdydd

Y gwahaniaethau鈥檔 cael eu cydnabod
Mae hyn yn digwydd yn bennaf oherwydd natur ddemocrataidd cynyddol y gymdeithas Gymreig. Mae鈥檙 bonheddwyr Anglicanaidd, a fu mor ddylanwadol am ganrifoedd, yn gweld eu hunain yn yr un dosbarth a gwyr mawr Prydain. Er bod ganddynt rywfaint o gydymdeimlad tuag at Gymru, maent yn tueddu i glosio at ei gilydd pan fo Cymreictod yn amlygu ei hunan a hynny yng ngwisg Anghydffurfiaeth radical. Hawliau鈥檙 Cymry fel Anghydffurfwyr sy鈥檔 cael eu tanlinellu gan Henry Richard, aelod seneddol Merthyr Tudful o 1868 i 1888. Mae daliadau gwleidyddion ifancach, megis Thomas Edward Ellis, aelod seneddol Meirionydd o 1886 i 1899, yn llai sectyddol. O dan ddylanwad y mudiad hunan lywodraeth yn Iwerddon mae Ellis ac eraill yn pwyso am fesur o hunan lywodraeth i Gymru, sustem addysg Gymreig, a deddfwriaeth i ryddhau tenantiaid Cymru o afael eu landlordiaid.

Mae eraill am fynd ymhellach: galw am annibyniaeth lwyr i Gymru wnaeth Michael D Jones, a oedd wedi cefnogi鈥檙 ymgais i ffurfio Cymru newydd ym Mhatagonia. Roedd Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) am i鈥檙 Gymraeg gael statws swyddogol llawn er mwyn sicrhau urddas pobl Cymru. Erbyn dechrau鈥檙 Rhyfel Byd cyntaf mae hunaniaeth Cymru yn fwy amlwg. Y mae鈥檙 newidiadau pennaf ym myd addysg a diwylliant. Rhoddir rhywfaint o statws i鈥檙 Gymraeg yn yr ysgolion yn 1889. Sefydlwyd Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn 1872, a cholegau Caerdydd a Bangor yn 1880au, gan arwain at ffurfio Prifysgol Cymru yn 1893. Mae鈥檙 Llyfrgell Genedlaethol a鈥檙 Amgueddfa Genedlaethol yn derbyn siartr frenhinol yn 1907. Mae ysgolheictod Cymreig hefyd yn ennill bri, diolch i lyfrau hanes J E Lloyd yn 1911 a gwaith John Morris-Jones ar yr iaith Gymraeg yn 1913.

Cymru Fydd
David Lloyd GeorgeSefydlwyd y mudiad yn 1886. Roedd iddo fwy nag un amcan, rhai efallai yn croes ddweud eu gilydd. Mae鈥檔 ceisio hyrwyddo amcanion y Rhyddfrydwyr, hybu ymwybyddiaeth o genedlaetholdeb, cefnogi achos datganoli i Gymru. Yn y 1890au mae鈥檔 gyfrwng i hybu uchelgais Lloyd George, sy鈥檔 ceisio rhoi mwy o stamp Cymreig ar bolis茂au鈥檙 Rhyddfrydwyr yng Nghymru. Ond mewn cyfarfod yng Nghasnewydd yn 1896 dangosodd canran helaeth o gefnogwyr y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru bod hyn yn annerbyniol, ac erbyn diwedd y ganrif mae鈥檙 mudiad wedi peidio 芒 bod. Atgyfodwyd cwestiwn hunan lywodraeth yn 1910 gan E T John, yn benodol yng nghyd-destun Iwerddon a鈥檙 tebygrwydd y byddai鈥檙 Gwyddelod yn cael llywodraethu eu hunain. Mae鈥檙 pwnc yn cael ei drafod yn helaeth yn y blynyddoedd yn syth wedi鈥檙 rhyfel, ac er bod Cymru鈥檔 sicrhau mesur o ddatganoli gweinyddol, nid oes unrhyw newid sylweddol. Yn 1925 ffurfiwyd Plaid Cymru, ond plaid ar ymylon gwleidyddiaeth Cymru yw hi tan o leiaf y 1950au.

Cenedl yn newid
Mae Thomas Edward Ellis a鈥檙 addysgwr o fri, Owen M Edwards, yn portreadu Cymru fel gwlad o bobl ddarbodus, yn ofni Duw, yn siarad Cymraeg ac yn byw yn y wlad. Ond erbyn dechrau鈥檙 20fed ganrif nid dyna fel mae pethau mewn gwirionedd. Mae dwy ran o dair o鈥檙 boblogaeth yn byw yn siroedd Morgannwg a Mynwy. Mae鈥檙 mwyafrif felly yn byw yn yr ardaloedd trefol a diwydiannol. Er yr adfywiad crefyddol yn niwygiad 1904-05, mae secwlariaeth ar gynydd. Yn 1901 mae hanner poblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg. Mae鈥檙 ganran yn gostwng i 43% erbyn 1911 - y flwyddyn pan fo naw allan o bob deg yn honni eu bod yn deall rhywfaint o Saesneg. Mae鈥檙 newidiadau hyn yn codi cwestiynau ynglyn 芒 natur Cymreictod - pwnc a fyddai鈥檔 achos gwewyr a dadlau mewn blynyddoedd i ddod.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth

  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
    Tud 1, Tud 2,

  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
91福利社
漏 MM


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy