91福利社

Explore the 91福利社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
91福利社 Cymru'r Byd - Creu Cenedl

91福利社 91福利社page
Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

91福利社 Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Ll锚n
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Twf Democratiaeth
Y Senedd
Y Senedd

Cynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru
cyn Y Diwygio

O dan y Ddeddf Uno yr oedd gan Gymru saith ar hugain o aelodau seneddol, a dyna鈥檙 drefn hyd y Ddeddf Ddiwygio yn 1832. Maent yn cynrychioli tua 7% o aelodaeth Ty鈥檙 Cyffredin, canran sy鈥檔 cyfateb fwy neu lai i ganran poblogaeth Cymru o fewn y deyrnas. Yn yr etholaethau sirol, rhydd-ddeiliad sy鈥檔 berchen tir sy鈥檔 werth dwy bunt y flwyddyn sy鈥檔 cael pleidleisio, yn y bwrdeistrefi y bwrdeiswyr sydd fel rheol yn cael pleidleisio.

Mae鈥檙 drefn yn y siroedd a鈥檙 bwrdeistrefi yn rhoi cyfle i鈥檙 tirfeddianwyr droi鈥檙 dwr i鈥檞 melin eu hunain. Prin yw鈥檙 rhydd-deiliad go iawn ac mae hawl y mwyafrif i bleidleisio ynghlwm 芒鈥檙 prydlesi sy鈥檔 cael eu rhoi gan y landlordiaid; mae mwyafrif y bwrdeistrefi dan reolaeth perchnogion y stadau a nhw sy鈥檔 penderfynu pwy sy鈥檔 cael bod yn fwrdeisiwr.

Y mae鈥檙 drefn yn llai llwgr yng Nghymru nag yw yn Lloegr; nid oes yr un fwrdeistref sy鈥檔 gyfan gwbl bwdr, y mae llai o drefi heb unrhyw gynrychiolaeth, ac nid yw鈥檙 anghyfartaledd rhwng y siroedd mor amlwg. Serch hynny, gan fod pleidleisio yn weithred gyhoeddus, a llai na 5% o wrywod 芒鈥檙 hawl i bleidleisio, llwgrwobrwyo yn rhemp a pherchnogion y stadau yr unig ddosbarth ariannog i bob pwrpas, mae鈥檔 anorfod bod dylanwad y landlordiaid ar y broses etholiadol yn drwm iawn. Erbyn diwedd y 18fed ganrif mae grwp o ryw ugain o deuluoedd yn rheoli鈥檙 gynrychiolaeth seneddol yng Nghymru; trefniadau preifat sy鈥檔 sicrhau mai un ymgeisydd, diwrthwynebiad sy鈥檔 sefyll etholiad. Yn etholiad cyffredinol 1830, er enghraifft, nid oedd gornest yn unrhyw un o鈥檙 etholaethau Cymreig.

Dechreuadau radicaliaeth wleidyddol
Dathliadau Diwrnod y Bastille - Bu'r Chwyldro Ffrengig yn ysbrydoliaethY mae yna ddigon o dystiolaeth bod yna yng Nghymru yng nghanol y 18fed ganrif ddigon o ddiddordeb cyffredinol mewn carfanau gwleidyddol ond fawr o ddiddordeb mewn egwyddorion gwleidyddol. Mae yna rhywfaint o gynnwrf yn ystod rhyfel Annibyniaeth America, ac eto o ganlyniad i鈥檙 Chwyldro Ffrengig.

Yn y 1790au lleiafrif bychan sy鈥檔 hyrwyddo syniadau radical, a llawer o鈥檙 rheini yn dod o rengoedd yr Anghydffurfwyr. Mae鈥檙 mudiad, os oes yna鈥檙 fath beth, yn cael ei danseilio gan Lywodraeth orthrymus a ffataliaeth crefyddol, ond mae鈥檙 galw am ddiwygiadau yn ail ymddangos mewn papurau megis y Cambrian (a sefydlwyd yn Abertawe yn 1804) a rhai cyhoeddiadau Cymraeg, cyhoeddiadau sy鈥檔 dechrau dod i鈥檙 amlwg yn y 1820au. Hawliau鈥檙 Anghydffurfwyr sy鈥檔 cael cryn sylw yng nghylchgronau鈥檙 Anghydffurfwyr, pwnc sydd o anghenraid yn herio tueddiadau gwleidyddol y dydd. Yr adeg yma hefyd mae鈥檙 diwydianwyr, sy鈥檔 ymwybodol o鈥檜 cyfraniad i鈥檙 economi, yn gynyddol fwy parod i ymosod ar rym y tirfeddianwyr.

Wedi cryn gynnen cafwyd y Mesur Diwygio yn 1832; y mae鈥檔 rhoi鈥檙 bleidlais i fwy o oedolion gwrywaidd (8% yn lle 5%). Ond mae鈥檙 ddeddf yn fwy arwyddocaol am ei fod yn dangos parodrwydd y dosbarth sydd 芒鈥檙 grym yn ei ddwylo i ddiwygio鈥檌 hunan, cam sy鈥檔 sicrhau bod Prydain yn troedio llwybr democratiaeth heb chwyldro, er bod y llwybr yn un hir a chythryblus. Mae鈥檙 ddeddf yn rhoi i Gymru bum aelod seneddol ychwanegol, yn diwygio鈥檙 etholfraint yn y bwrdeistrefi, ac yn rhoi鈥檙 bleidlais i wrywod yn y siroedd a dalai rent blynyddol o 拢50 neu ragor.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys

  15. Twf Democratiaeth
    Tud 1, Tud 2,

  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
91福利社
漏 MM


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy