91福利社

Explore the 91福利社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
91福利社 Cymru'r Byd - Creu Cenedl

91福利社 91福利社page
Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

91福利社 Cymru'r Byd
Chwaraeon

Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Ll锚n
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Y Diwygiad Protestannaidd
Morwyn Penrhys
Morwyn Penrhys

Crefydd yr oesoedd canol diweddar yng Nghymru
Yn yr hanner can mlynedd cyn y Diwygiad Protestannaidd yr oedd ymlyniad y bobl at grefydd draddodiadol yn daer iawn. Yr oedd llawer o addoli ar y Forwyn Fair. Codwyd eglwysi trefol nodedig yng Nghaerdydd, Dinbych y Pysgod, Wrecsam a mannau eraill. Codwyd eglwysi dwy ale yn Nyffryn Clwyd, ac mae cryn barch at ddelwau megis Morwyn Penrhys (Rhondda). Eto, er mor boblogaidd yw arferion crefyddol y Cymry, nid oes iddynt fawr o sylwedd deallusol. A chan mai prin o ran gallu yw鈥檙 Cymry all warchod yr hen, a dim ond ambell un yn awyddus i anwesu鈥檙 newydd, eu hymateb cyffredinol i newidiadau crefyddol yw derbyn yn swrth yr hyn mae鈥檙 llywodraeth yn ei gyflwyno.

Torri'r cysylltiad a RhufainTorri鈥檙 cysylltiad 芒 Rhufain
Erbyn diwedd y 1520au mae Harri VIII yn awyddus i ysgaru鈥檌 wraig Catherine o Aragon er mwyn priodi Anne Boleyn. Dim ond y Pab all ganiat谩u hynny, ac nid yw鈥檔 awyddus i gythruddo nai Catherine, yr Ymerawdwr Siarl V. Yn 1529 mae鈥檙 brenin yn cynnull senedd lle mae rhwydd hynt i unrhyw un fynegi teimladau gwrth-babaeth. Dechreuwyd proses sydd 芒鈥檌 momentwm ei hunan. Erbyn 1535 mae Harri, gyda chymorth ei brif weinidog, Thomas Cromwell, wedi sicrhau nifer o fesurau sy鈥檔 dileu awdurdod y Pab yn nhiriogaethau coron Lloegr ac yn dyrchafu鈥檙 brenin yn ben ar Eglwys Loegr.

Rhagor o newidiadau crefyddol
Roedd y Diwygiad Protestannaidd wedi dechrau yn yr Almaen yn 1517, ond nid torri鈥檙 cysylltiad 芒 Rhufain er mwyn derbyn y grefydd Brotestannaidd oedd bwriad Harri. Ei nod yw sicrhau i鈥檞 hunan y pwerau oedd gan y Pab.

Y mae Protestaniaid yn cael eu herlyn. Llosgwyd Thomas Capper yng Nghaerdydd yn 1542. Eto mae Harri鈥檔 hyrwyddo rhai polis茂au lled Brotestannaidd, yn benodol felly, mewn perthynas 芒 mynachaeth. Rhwng 1536 a 1540 ymosodwyd ar y tai crefydd. Yr oedd 47 ohonynt yng Nghymru, yn cynnwys mynachdai, lleiandai, brodordai a chelloedd amrywiol. Yr oedd y bywyd mynachaidd wedi bod yn ddilewyrch ers tro. Erbyn 1536 dim ond wyth deg pump o fynachod oedd mewn tri ar ddeg o fynachlogydd Sistersaidd yng Nghymru - ac yr oedd enw digon amheus gan rai ohonynt. Diddymwyd y mynachdai nid oherwydd eu gwendidau ond am fod y brenin yn chwennych eu cyfoeth.

Thomas Cranmer O ganlyniad i鈥檙 diddymiad y mae cannoedd o filoedd o erwau o dir Cymru yn newid dwylo. Yr uchelwyr sydd ar eu hennill. Er enghraifft, fe drosglwyddwyd Abaty Margam a鈥檌 diroedd i鈥檙 teulu Mansel, a鈥檙 teulu Somerset o Rhaglan yn cael tiroedd Tyndyrn. Er bod rhai o dai鈥檙 Benedictiaid yn troi鈥檔 eglwysi plwyf, y mae llawer o鈥檙 mynachlogydd yn troi鈥檔 adfeilion - ergyd greulon i鈥檙 etifeddiaeth bensaern茂ol Gymreig.

Erbyn marwolaeth Harri鈥檙 VIII yn 1547, y mae newidiadau crefyddol eraill wedi digwydd, yn fwyaf arbennig, dinistrio delweddau megis yr un ym Mhenrhys ac atal y canolfannau pererindota. Yn 1539 mae鈥檙 brenin yn caniat谩u cyhoeddi鈥檙 Beibl yn Saesneg a chyhoeddwyd llyfr gweddi Thomas Cranmer yn 1544. Ddwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf, gwaith John Prys, Aberhonddu. Ei gynnwys oedd y Credo, Gweddi鈥檙 Arglwydd a鈥檙 Deg Gorchymyn. Dyma ddechreuad cyhoeddi yn y Gymraeg.

Rhwng 1546 a 1660 cyhoeddwyd 108 o lyfrau Cymraeg, rhif bychan o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 llyfrau a gyhoeddwyd yn Saesneg neu Ffrangeg, ond nifer sylweddol o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 ieithoedd Celtaidd eraill. Yn y cyfnod yna dim ond pedwar llyfr Gaeleg gafodd eu cyhoeddi a dim ond un ar ddeg yn yr Wyddeleg.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno

  10. Y Diwygiad Protestannaidd
    Tud 1, Tud 2,

  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
91福利社
漏 MM