|  |
 Y
Rhyfel a'r Dirwasgiad

Milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Bu farw tua deugain mil o Gymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dim ond un
agwedd yw鈥檙 marwolaethau o鈥檙 helbulon sy鈥檔 rhan o brofiad y Cymry
fel mae鈥檔 rhan o brofiad gweddill trigolion Ewrop. Un o brif ganlyniadau鈥檙
rhyfel yw鈥檙 effaith ar yr economi. Cyrhaeddodd y galw am lo ei benllanw
yn 1913. Ond nid oes modd cynnal y galw hyn, ac mae鈥檙 rhyfel a鈥檙 ffyniant
rhyfeddol ddaeth wedi鈥檙 rhyfel yn golygu nad oes adolygiad rhesymegol
o lefelau cynhyrchu. Nid yw鈥檙 economi鈥檔 gwneud cystal yn 1921, rhagflas
o鈥檙 dirwasgiad fyddai鈥檔 blino鈥檙 blynyddoedd canlynol. Oherwydd y rhyfel
mae pobl yn cefnu ar y Blaid Ryddfrydol, ac yn chwalu鈥檙 optimistiaeth
oedd yn nodweddu bywyd yng Nghymru cyn y rhyfel. Mae cenedligrwydd
Cymreig, oedd mor gadarn ar droad y ganrif, yn troi鈥檔 rhywbeth sy鈥檔
rhaid ei amddiffyn a鈥檌 warchod. Mae鈥檔 cael effaith ddifrifol ar gefn
gwlad, ac yn ergyd farwol i yst芒dau鈥檙 tirfeddianwyr. Mae crefydd gyfundrefnol,
oedd yn nodwedd amlwg o fywyd oes Victoria ac Edward yng Nghymru,
yn dechrau dirywio鈥檔 gyflym, yn rhannol am fod ymgyrchoedd recriwtio
clerigwyr wedi arwain at sinigiaeth.
Helyntion diwydiannol
Gan
fod gobeithion pobl yn uchel, diolch yn rhannol i鈥檙 chwyldro Comiwnyddol
yn Rwsia a鈥檙 disgwyliad y byddai aberth y miloedd yn y rhyfel yn creu
cymdeithas decach, mae鈥檙 blynyddoedd yn syth wedi鈥檙 rhyfel yn rhai
o anniddigrwydd. Mae Cymdeithas Sosialaidd De Cymru yn rhan o Blaid
Gomiwnyddol Prydain Fawr, ac i Lenin mae Ffederasiwn Glowyr De Cymru
ar flaen y gad yn y chwyldro ym Mhrydain. Yn 1919 mae鈥檔 ymddangos
bod y Llywodraeth ar drugaredd y glowyr sy鈥檔 galw am wladoli鈥檙 diwydiant,
ond mae Lloyd George yn llwyddo yn ddeheuig iawn i sicrhau parhad
yr hen drefn. Er y streic chwerw yn 1921 mae llawer o鈥檙 hyn a enillodd
y dosbarth gweithiol yn ystod y rhyfel yn cael ei golli. Yn 1926 mae
Cyngres yr Undebau Llafur yn trefnu streic gyffredinol i geisio gorfodi鈥檙
llywodraeth i ildio鈥檙 i鈥檙 glowyr, ond corff cymedrol yw鈥檙 Cyngres
heb stumog mewn gwirionedd ar gyfer gweithred mor chwyldroadol. Mae鈥檙
streic a brwydr hir y glowyr yn dod i ben, gan arwain at dranc y gred
mewn syndicaliaeth, er mae鈥檙 Comiwnyddion, sydd 芒 dylanwad o hyd mewn
rhannau o鈥檙 maes glo, yn dal i gredu y gall gweithredu diwydiannol
arwain at newid.
Diweithdra鈥檔 cynyddu
Mae鈥檙 arwyddion i鈥檞 gweld yng nghanol y 1920au - mae diweithdra ymhlith
y glowyr yn codi o 2% yn Ebrill 1924 i 12.5% yn Ionawr 1925 a 28.5
ym mis Awst. Maes glo de Cymru, sy鈥檔 dibynnu mwy ar allforio na鈥檙
meysydd glo eraill ym Mhrydain, sy鈥檔 dioddef fwyaf. Bu cwymp yn y
galw am lo o dramor am fod y gwledydd hynny鈥檔 cynhyrchu mwy eu hunain,
roedd mwy yn troi at olew, gwerth y bunt, yr Unol Daleithiau yn cipio
marchnadoedd de America, dulliau cynhyrchu hen ffasiwn y diwydiant
ym Mhrydain, a cholli鈥檙 farchnad Ewropeaidd wrth i鈥檙 Almaenwyr dalu
iawndal mewn glo.
Fe wnaed problem diweithdra yn y maes glo yn y 1920au yn waeth gan
gwymp Wall Street yn 1929. Erbyn 1932, a diweithdra wedi cyrraedd
42.8% ymhlith gwrywod, mae Cymru yn un o wledydd mwyaf dirwasgedig
y byd. Er mai鈥檙 glowyr ddioddefodd waetha, roedd diweithdra鈥檔 ddrwg
ymhlith y gweithwyr dur ac alcam, y chwarelwyr a gweithwyr cludiant.
Mae鈥檔 galed ar fyd amaeth hefyd, ac roedd llawer oedd 芒 gwaith llawn
amser ar y tir yn ennill llai na鈥檙 rhai oedd yn derbyn budd-dal diweithdra.
|
 |

|
 漏 MM
|
听 |
听 |
|
|