 Cymdeithas
a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar

Cafwyd cynnydd ym mhoblogaeth y trefi
Y boblogaeth a鈥檙 economi
Yn 1536 yr oedd tua 278,000 yn byw yng Nghymru. Y mae鈥檙 rhif yn codi
i tua 360,000 yn 1620 ac efallai 500,000 erbyn 1750. Y prif resymau
am y cynnydd yw dwys芒d mewn setliad gwledig, y cynnydd mewn masnach
am fod bywyd yn fwy sefydlog, a鈥檙 amrywiaeth cynyddol yn natur y gweithgarwch
economaidd. Yn ganolog o hyd i鈥檙 economi mae magu gwartheg a defaid
a phrosesu eu cynnyrch, er mae gweithfeydd plwm, glo, haearn a llu
o grefftau a galwedigaethau eraill yn cynnig cyfleon economaidd newydd
hefyd.
Rhaniadau dosbarth
Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, o leiaf, mae鈥檙 boblogaeth yn 么l pob
tebyg, yn cynyddu鈥檔 gyflymach na鈥檙 economi, ac o ganlyniad mae safonau
byw y bobl yn dioddef. Y mae chwyddiant - mae prisiau鈥檔 pedryblu rhwng
1530 a 1640 - yn gwneud y sefyllfa鈥檔 waeth.
Y mae nifer y rhai heb dir yn cynyddu wrth i鈥檙 uchelwyr ychwanegu
at eu hyst芒dau. Yn 么l pob tebyg yr oedd tua 30% o鈥檙 boblogaeth yn
druenus o dlawd. Maent yn byw mewn hofelau un ystafell, heb na ffenestr
na simnai, ac maent yn gorfod ufuddhau i Statud y Gweithwyr 1563,
sy鈥檔 dweud bod y bobl di-eiddo鈥檔 hanfodol wasaidd. Oherwydd pryder
y gallai鈥檙 sefyllfa greu ansefydlogrwydd pasiwyd Deddf y Tlodion yn
1601; mae鈥檔 rhoi鈥檙 hawl i awdurdodau鈥檙 plwyf godi trethi i gynnal
y tlodion, i drefnu prentisiaeth i blant amddifad ac i gosbi dihirod
segur. M芒n ffermwyr a thyddynwyr yw hanner y boblogaeth.
Yn yr ardaloedd mwyaf ffafriol, megis Bro Morgannwg, mae鈥檙 tyddynnwr
yn eitha cyfforddus, er yn ystod cyfnodau o newyn megis 1585-7, 1593-7
a 1620-23 mae llawer yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.
Y mae鈥檙 dosbarth proffesiynol, y marsiandwyr, y crefftwyr mwyaf sylweddol
a鈥檙 iwmyn yn cynrychioli tua 15% o鈥檙 boblogaeth.Y mae pwer y dosbarth
hwn ar gynnydd.
Erbyn
y 18fed ganrif y mae yna ddosbarth canol sylweddol o ddoctoriaid,
cyfreithwyr a swyddogion y llywodraeth, ac mae鈥檙 tai maent yn eu codi
yn nodwedd ddeniadol yn nhrefi Cymru. Y mae鈥檙 mwyaf llwyddiannus,
ymhlith y cyfreithwyr yn fwyaf arbennig, yn ceisio ymgodi, ac ymuno
芒鈥檙 5% sy鈥檔 berchnogion tir. Y mae aelod o鈥檙 dosbarth uwch yn gallu
dod ymlaen yn y byd mewn nifer o ffyrdd: gall briodi etifeddes, gall
ymgyfoethogi yn rhinwedd ei swydd, drwy gael ffafr frenhinol neu fenter
fasnachol neu - fel smyglwr neu f么r-leidr - trwy anwybyddu鈥檙 gyfraith;
fe all dorri calon gwrthwynebydd llai cefnog trwy ddwyn achosion cyfreithiol
yn ei erbyn; gall gymryd eiddo yr eglwys neu鈥檙 goron; gall gymryd
tir trwy fygwth. Y mae鈥檙 dulliau hyn yn galluogi鈥檙 gwyr mawr i ychwanegu
at eu heiddo.
Erbyn y 19eg ganrif y mae ugain o deuluoedd Cymreig yn berchen ar
o leiaf ugain mil o erwau鈥檙 un, a bydd y cyfoethocaf ohonynt, y Williams
Wynn o Wynnstay ger Wrecsam, yn berchen ar 150,000 o erwau.
Gwlad a thref
Yn y cyfnod modern cynnar y mae Cymru gyfan yn wledig fwy neu lai.
Er bod yna 54 o ganolfannau sydd 芒 rhywfaint o statws trefol, nid
ydynt ar y cyfan fawr mwy na phentrefi.
Y trefi 芒鈥檙 swyddogaethau llawnaf yw鈥檙 prif drefi: Caerfyrddin, Aberhonddu,
Dinbych a Chaernarfon.
Y
dref fwyaf yw Caerfyrddin - tua dwy fil o drigolion yn 1560 a thua
phedair mil yn 1770. O ran maint mae Wrecsam yn weddol agos.
Y mae鈥檙 trefi鈥檔 tyfu wrth i bobl adael y wlad, a鈥檙 mwyafrif ohonynt
yn Gymry. Felly mae鈥檙 elfen Seisnig oedd mor nodweddiadol o drefi
Cymru鈥檙 Canol Oesoedd yn lleihau. Pobl y trefi, er yn lleiafrif bychan,
yw elfen fwyaf deinamig y wlad. Rhwydwaith o gymunedau lleol, bychain
yw鈥檙 ardaloedd gwledig. Mae cyflwr y ffyrdd yn golygu nad yw pobl
yn crwydro ymhell o鈥檜 milltir sgw芒r. Y mae ofergoeliaeth yn gyffredin,
ac mae gan y bobl lawer o ffydd mewn triniaethau llysieuol a diodydd
hudol, mewn hud a lledrith i ddelio ac ysbrydion drwg, ac mae barbareiddiwch
yn dderbyniol wrth ymdrin 芒 gwrachod.
|
 |

|