|  |
 Diwylliant
a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
 Newidiadau crefyddol
Fel y gwelwyd, nid yw llwybr canol yr Anglicaniaid yn bodloni pawb
yng Nghymru. Y mae gan y Catholigion eu cadarnleoedd, yn enwedig yn
Sir Fynwy a Sir Fflint. Ond ar 么l i bobl gymryd yn erbyn y pab yn
1678-9, dilewyrch fu hanes yr Eglwys Gatholig nes i鈥檙 Gwyddelod ddechrau
mewnfudo yn y 19eg ganrif. Stori wahanol yw stori鈥檙 Protestaniaid.
Oherwydd dylanwad y Rhyfel Cartref a鈥檙 Weriniaeth, mae cynulleidfaoedd
mwy efengylaidd eu tuedd yn cynyddu o ddau i ddwsinau. Ond wedi adferiad
y Stiwartiaid mae yna erledigaeth, ond wedyn maent yn cael eu derbyn
yn anfoddog yn 1689. Araf yw鈥檙 symud at Anghydffurfiaeth. Erbyn 1676
rhyw un ym mhob ugain o drigolion Cymru, o bosib, sy鈥檔 mynychu gwasanaethau鈥檙
Sentars, ac yn 1716 rhyw ugain o gapeli sydd yn y wlad o鈥檌 gymharu
a bron fil o eglwysi plwyf.
Y Diwygiad Methodistaidd
Y mae鈥檙 brwdfrydedd efengylaidd yn cael ei danio gan y Diwygiad Methodistaidd,
a lansiwyd gan Howel Harris ac eraill yn y 1730au. Yn wahanol i鈥檙
Methodistiaid yn Lloegr yr un adeg, mae Methodistiaid Cymru yn Galfinaidd
o ran diwinyddiaeth ac yn datblygu strwythurau gweinyddol gwahanol.
Erbyn 1750 mae 428 o seiadau yng Nghymru. Y mae鈥檙 arweinwyr yn meddwl
yn nhermau mudiad sy鈥檔 adfywio鈥檙 Eglwys sefydledig, ac yn gwadu mai
eu bwriad yw creu enwad ar wah芒n. Yn ystod y 18fed ganrif maent yn
denu rhagor o ddilynwyr, ac mae eu s锚l yn annog yr enwadau Anghydffurfiol,
yr Annibynwyr a鈥檙 Bedyddwyr, i ymestyn cylch eu dylanwad. Ac wrth
ddilyn y trywydd yma fe ddaw Cymru erbyn y 19eg ganrif yn wlad lle
mae鈥檙 Anghydffurfwyr yn y mwyafrif.
|
 |

|
 漏 MM
|
听 |
听 |
|
|