91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Fan a'r Lle
Marc Williams Antur yn yr Amazon
Hydref 2009
Treuliodd Marc Williams mis yn Fforest Law yr afon Amazon yn gynharach eleni. Dyma hanes y daith.

"Rwyf wedi bod yn ffodus to hwnt o gael treulio pedair wythnos yn Fforest Law yr Afon Amazon, un o'r lleoedd mwyaf ar y ddaear, nid yn unig o ran maint ond hefyd o ran amrywiaeth.

Roedd hi'n daith pum niwrnod mewn cwch i lawr yr Amazon ac afon Yavari i gyrraedd yr ardal gadwraeth ble roeddem i wneud ein gwaith ymchwil ar nifer o anifeiliaid.

Roedd y prosiectau yn cynnwys gwaith ymchwil ar y Mwnciod Uakari Coch, ac yn wir sefydlwyd Gwarchodfa Lago Preto, ardal 10,000 hectar yn un o ardaloedd mwyaf anghysbell ac unig yr Amazon, i gyflawni'r gwaith.

Roedd nifer o brosiectau eraill hefyd ar droed, yn cynnwys gwaith ymchwil ar lyffantod, pysgod, caimanod (math o grocodeil), adar y fforest, a'r dolffiniaid d诺r croyw.

Treuliais lawer o amser ynghlwm wrth brosiect y llyffantod ac roedd yr arweinydd yn wych ar ddod o hyd i nadroedd, tarantwlaod, criciaid mawr a gecoaid yn ogystal 芒 llyffantod o bob maint.

Digwyddodd rhywbeth anhygoel a chyffrous i mi wrth weithio ar y prosiect yma. Daeth yr arbenigwr ar lyffantod ar draws math newydd o lyffant dart gwenwynig a'r enw a roddwyd i'r llyffant newydd hwn oedd Ranitomeya Yavari.

Roedd yn fraint ac anrhydedd cael bod yn rhan o'r darganfyddiad pwysig hwn.

Ni fyddaf byth yn anghofio'r profiadau lu a gefais wrth ymweld ag un o leoedd mwyaf anghysbell a phrydferth y Blaned hon.

Rwyf wedi gweld a chyffwrdd creaduriaid fel y tarantwlaod mawr, blewog, y caimanod, llyffantod bach ac enfawr, y neidr fwyaf gwenwynig yn y fforest, y Fur-de-lance, a'r Piranha gyda'i ddannedd miniog.

Mae'r gwaith o warchod y nifer helaeth o rywogaethau a chynnal ffrwythlondeb ac amrywioldeb y fforest law drofannol yn hynod o bwysig.

Mae digoedwigo yn broblem sydd ar gynnydd yn yr Amazon a dylid gwneud mwy i ddiogelu'r fforest er mwyn sicrhau Daear iach a bioamrywiol am ganrifoedd i ddod."

Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Marc Williams. Mae ei gartref ym Mhantygelynen, Cwm Camlais.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy