91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Fan a'r Lle
Dawnsio gwerin Wythnos Gymraeg Gouesnou
Gorffennaf 2006
John M.Edwards sy'n adrodd hanes taith trigolion Aberhonddu i "Wythnos Gymraeg" tref Gouesnou, Llydaw.

Ers blynyddoedd mae dolen gref wedi ei ffurfio rhwng Aberhonddu a'i gefeilldref yn Llydaw, sef Gouesnou. Bu mynych ymweliadau rhwng y ddwy dref a sefydlwyd cyfeillgarwch clos rhwng llawer o'r trigolion.

Eleni, penderfynodd trigolion Gouesnou i gynnal wythnos Gymraeg yn eu tref, i ddathlu'r cwlwm sy'n bodoli rhwng Cymru a Llydaw. A gyda chymorth pwyllgor gefeillio Aberhonddu, roedd yr hyn a drefnwyd yn syfrdanol.

Ar y dydd Llun daeth nifer o ysgolion lleol i ymweld 芒'r arddangosfa Gymraeg yn y ganolfan gymunedol. Roedd ysgolion cylch Aberhonddu wedi bod yn gwneud posteri, lluniau a modelau ar gyfer yr arddangosfa, a dangosodd plant Gouesnou ddiddordeb mawr ynddynt. Roedd llwyau caru, ffyn traddodiadol ynghyd a brodwaith gwych Marcelle Davies hefyd yn cael eu harddangos. Nos Lun rhoddwyd darlith ar y cysylltiadau rhwng Llydaw a Chymru gan Jean le Duc o Adran Geltaidd Prifysgol Brest.

Ar y nos Fawrth cyrhaeddodd y bws o Aberhonddu, gyda dros ddeugain o bobl, yn cynnwys nifer o artistiaid a chrefftwyr lleol, a'r grwp dawnsio gwerin "Tipyn o Bopeth". O hynny ymlaen bu'r wythnos yn llawn berw, gyda'r dawnswyr yn difyrru pobl ar y strydoedd, mewn ysgolion ac mewn cartref hen bobl. Bu'r crefftwyr a'r artistiaid hefyd yn cynnal arddangosfeydd.

Ar y dydd Mercher trefnwyd taith i ni drwy rai o erddi hardd Brest, ac yn y nos dangoswyd y ffilm "How Green Was My Valley". Cafwyd ymateb gwych i'r ffilm a llwyddodd Ron Rowsell i ateb y cwestiynau niferus am y gweithfeydd glo gydag arddeliad, gan iddo gael ei ddwyn i fyny yn Nhreherbert pan oedd y glofeydd yn eu bri.

Ar y dydd Iau cafwyd taith i Argol, sef amgueddfa sy'n dangos crefftwyr traddodiadol Llydaw wrth eu gwaith, ac roeddem yn synnu a rhyfeddu at ddyfeisgarwch y werin bobl 'slawer dydd. Roedd C么r Meibion Aberhonddu wedi cyrraedd erbyn hyn, ac ar y nos Iau cafwyd cyngerdd gwych ganddynt hwy a Ch么r Gouesnou yn eglwys hyfryd y dref. Roedd y lle'n llawn a chanodd y corau gydag angerdd a brwdfrydedd.

Ar y dydd Gwener trefnwyd taith i Quimper a buom yn ymweld 芒 chrochendy enwog a ffatri wneud bisgedi, cacennau a diodydd. Roedd blas arbennig ar y samplau a baratowyd ar ein cyfer, a chawsom ddau lond bag anferth o ddanteithion i fynd gyda ni.

Noson o ddawnsio oedd hi nos Wener ac roedd y neuadd yn orlawn wrth i bawb geisio dygymod 芒 rhai o ddawnsiau gwerin Llydaw a Chymru.

I gloi'r wythnos ar y dydd Sadwrn, cynhaliwyd helfa drysor a ras hwyaid. Roedd ras hwyaid yn rhywbeth newydd i'r Llydawyr a chredai'r rhan fwyaf ohonynt fod dros fil o hwyaid byw o Gymru yn mynd i gael eu gollwng yn rhydd. O ganlyniad, daeth tyrfa fawr ynghyd i weld cannoedd o hwyaid bach plastig yn arnofio i lawr y nant mewn parc yn Gouesnou!

I gloi'r wythnos cynhaliwyd bwffe enfawr yn y neuadd gymunedol, gyda grwp o gerddorion lleol yn ein diddanu. Roedd y byrddau'n drwmlwythog a'r gwin yn llifo a chafwyd noson gofiadwy iawn. Mae croeso a lletygarwch y Llydawyr yn rhagorol a chawsom amser bendigedig yn eu cwmni.

Roeddem yn falch fod yr wythnos wedi bod mor llwyddiannus iddynt gan fod llawer o waith trefnu wedi ei wneud yn Aberhonddu a Gouesnou. Ym mis Awst bwriadwn fynd 芒 chriw ohonynt i gerdded yn Eryri am rai dyddiau.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy