91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Fan a'r Lle
Cwm Elan Prosiect Barddoni Llanfair-ym-Muallt
Gorffennaf 2005
Ers tair blynedd bellach, mae prosiect hynod o bwysig yn cael ei weithredu yn ardal Llanfair-ym-Muallt.

Prosiect sy'n galluogi disgyblion Cyfnod Allweddol 2 a 3 i gydweithio gyda'i gilydd. Gwahoddir beirdd a llenorion enwog i'w plith, gan eu hannog i greu llenyddiaeth a'u hysbrydoli drwy gyfrwng y Gymraeg.

Drwy'r prosiectau cryfheir ddyfodol yr iaith yn yr ardal, ond yn bwysicach fe ddethlir ein hanes lleol. Dan law y Prifeirdd Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd, dair blynedd yn 么l, cyfansoddwyd 12 cerdd yn seiliedig ar y Barcud Coch, yr aderyn prin sydd bellach wedi ail-ymsefydlu yn yr ardal, delwedd debyg iawn ond ar raddfa arafach i'r iaith Gymraeg.

Llwyddwyd llynedd, gyda chymorth ffotograffydd lleol, Liz Flemming-Williams, i gynhyrchu llyfryn sy'n ddathliad o'r ardal a'r Gymraeg. Fis Mawrth eleni, rhyddhawyd CD sy'n seiliedig ar y farddoniaeth gyda chyfansoddiad cerddorol un o'n cyn ddisgyblion bellach. Lleisiau lleol yn llefaru yn eu gweithdai sydd yma.

Prosiect llynedd oedd Cwm Elan, yng nghwmni'r llenor o Feirionydd, Bethan Gwanas, a'r ddau frawd o'r band Brigyn, Ynyr ac Eurig Roberts. Llwyddwyd i greu llu o farddoniaeth a rhyddiaith yn seiliedig ar eu profiad yn y Cwm ac yn ogystal yr hanes, gan y cafwyd y llynedd, gan mlynedd ers agor yr argau cyntaf yn y Cwm. Bellach mae'r gwaith hwn ar DVD. Yn ogystal ceir profiad ac atgofion y gwesteion a'r disgyblion ar ein diwrnod yn y Cwm, a thaith drwy'r tymhorau drwy luniau rhyfeddol Liz Flemming-Williams.

Os hoffech dderbyn copi o'r eitemau uchod, neu dderbyn unrhyw wybodaeth am y prosiectau blynyddol hyn, cysylltwch ag Olwen Edwards, Cydlynydd Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt. Prisiau'r Llyfrau: Cri'r Barcud Coch 拢4; CD 拢4; DVD Cwm Elan 拢5.

Olwen Edwards
Cydlynydd Cyfrwng Cymraeg Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy