91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Fan a'r Lle
Alys Thomas Y Cwpan Aur
Gorffennaf 2003
'Rwy'n adnabod nifer o bobl sydd wedi cael triniaeth yn Ysbyty Rhydlafar, ger Caerdydd. Yn ddiweddar fe ddysgais am gychwyniad yr ysbyty hon drwy ddod yn berchen ar drysor teuluol - sef Cwpan Aur - a enillwyd yn 1920, a gyda hi, fe gefais nifer dda o doriadau papurau newydd.

Roedd Ysbyty Tywysog Cymru yng Nghaerdydd wedi cael ei hagor yn swyddogol yn 1918. Yno, roedd help i'w gael i filwyr oedd wedi colli aelodau, fel braich neu goes, yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Llywydd Pwyllgor Gweithredol yr ysbyty oedd neb lIai na'r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George, a'i wraig, Dame Margaret, oedd y Cadeirydd. Fe weithiai hi'n galed iawn i godi arian at ddatblygu'r gwaith o helpu'r anabl. Fe drefnodd gystadleuaeth i Gorau Meibion yn yr 'Empire Theatre' yng Nghaerdydd.

Roedd y Llywydd, yntau, yn cynnig Cwpan Aur a 拢100 o wobr i'r c么r gorau a 拢50 i'r ail! Fe greodd hyn gynnwrf mawr. Gweithiai'r corau'n galed er mwyn cael siawns o gael cystadlu. Arweinydd C么r Maesteg ar y pryd oedd y Bnr. Tom Thomas, F.T.S.C. brawd hynaf fy mam. Bu i'w g么r ef gael ei ddewis yn un o'r 16 a ddewisiwyd i gystadlu. Glowyr oedd y mwyafrif o'r aelodau. Roedd c么r buddugol yr wyl i gynnal cyngerdd yn Neuadd y Ddinas, noson y gystadleuaeth, ar Ragfyr 4ydd, 1920.

C么r Maesteg oedd rhif 14 ar y rhestr, i ganu. Roedd y Theatr yn orlawn! Dyfarnwyd y wobr gyntaf i G么r Maesteg! C么r Tredegar oedd yn ail, a dim ond un pwynt rhyngddynt. Clywid bonllefau gan wyr Maesteg, mae'n debyg "Da iawn, Maesteg!" ... "Da iawn, yr hen Domi o Blwyf Llangynwyd!" ac meddai Dame Margaret wrth gyflwyno'r Cwpan Aur i Tom Thomas, - "Llongyfarchiadau i chi. Dim ond yng Nghymru, Gwlad y G芒n, y gellid cael y fath noson!' Pan ddaeth y tr锚n i orsaf Llangynwyd, roedd fy nhadcu yno i longyfarch ei fab! Fe oedd wedi rhoi'r gwersi cyntaf iddo mewn cerddoriaeth a'i gychwyn ar ei yrfa fel organydd ac arweinydd c么r yr hen gapel bach Ileol.

... Doedd gan Ysbyty Tywysog Cymru yn y ddinas ond 64 o welyau a bu ymdrech fawr i gael adeilad mwy a newydd. Ym mhen blynyddoedd fe symudwyd popeth i hen ysbyty Americanaidd yn ardal Rhydlafar, ar 么l yr Ail Ryfel Byd, gyda 300 o welyau. Felly, fe welwn fod De Cymru wedi arloesi llawer mewn meddyginiaeth orthopedig dros y blynyddoedd, ac yn Rhydlafar, fe gafwyd theatrau modern ac addas.

Mae'n hyfryd meddwl fod gan yr hen Gwpan ryw ran arbennig yn natblygiad y math yma o feddyginiaeth. (Dylid dweud fod Alys wedi rhoi'r Cwpan i'w chadw'n ddiogel o dan glo!)

Alys Thomas


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy