91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Fan a'r Lle
C么rdydd yn perfformio yng nghyngerdd Tsunami Cymru yng Nghaerdydd Cyngerdd dathlu deg
Gorffennaf 2005 - erthygl 3
Cynhaliwyd cyngerdd arbennig yn Theatr Brycheiniog ar nos Sadwrn, Mehefin 18fed i ddathlu'r degawd ers sefydlu'r papur bro Y Fan a'r Lle.
Ar noson braf ym mis Mehefin, beth well na chael ymlacio yn yr ardd gyda barbeciw a photel o win, meddech chi. Ond, gyda'r degawd ers sefydlu'r papur bro yn haeddu'i ddathlu, gwledd gerddorol oedd ar gael yn Theatr Brycheiniog ar nos Sadwrn, Mehefin 18fed, pan ddaeth dau g么r o leisiau ifanc ac unawdydd byd-enwog i'n diddanu.

Bu 'C么rdydd', un o'r corau poblogaidd sy'n ffynnu yn y brifddinas y dyddiau hyn, yn llwyddiannus mewn nifer o gystadleuthau cenedlaethol, a hawdd deall hynny wrth wrando ar eu canu disgybledig. Er mai dim ond hanner aelodau'r c么r oedd yn gallu bod yn bresennol ar y noson - a'u dewis o raglen wedi'i gyfyngu o'r herwydd - yn ddi-os mae eu harweinyddes, Sioned James, yn feistres ar ei chrefft.

Yn 么l ei chyfaddefiad ei hun, mae Sioned yn hoff iawn o waith y cyfansoddwr John Rutter, a chyda un o'r aelodau wedi cyfieithu a gosod y geiriau Cymraeg ar y nodau yn gelfydd, roedd cerddoriaeth syml ond effeithiol Rutter ymysg eu rhaglen, yn addas iawn i'r c么r hwn. Cafwyd gwaith clodwiw gan gyfeilydd y c么r, Lowri Evans, a hi hefyd fu'n cyfeilio i unawdydd y noson sef Iona Jones.

Pleser pur oedd clywed llais soprano cyfoethog Iona yn cyflwyno rhaglen amrywiol a difyr - arias o operau, clasuron Cymreig ac alawon gwerin, a chloi'r noson drwy ymuno 芒 'C么rdydd' i ganu "Hafan Gobaith".

Mae gobaith eto i ganu corawl yn yr ardal hon gyda sefydlu C么r Plant De Powys, a thipyn o brofiad oedd i'r c么r ifanc hwn gael canu ar lwyfan Theatr Brycheiniog! Ugain o blant o ysgolion cynradd yr ardal, dan arweiniad Delyth Taylor a'u cyfeilydd Elin Non Ennys, yn llawn brwdfrydedd, a'u mwynhad yn amlwg wrth ganu'r darn hwyliog "Parti'r Ysbrydion" gan Huw Chiswell.

Un arall o'u caneuon oedd "Thank you for the music", a hoffai aelodau Bwrdd Golygyddol Y Fan a'r Lle ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at y noson ddiddan hon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy