|
Fel rhan o'r gwaith, gwelwyd newidiadau mawr i'r hen adeilad, gyda'r holl waliau mewnol yn cael eu hail blastro, systemau weirio a gwresogi newydd yn cael eu gosod, gwaith inswleiddio a gosod ffenestri newydd ynghyd ag adnewyddu hanner llawr y brif neuadd.
Y mhlith y gweithgareddau eraill roedd ail garpedu'r lloriau a buddsoddi mewn dodrefn newydd.
Yn unol â chyfarwyddyd y Parc Cenedlaethol, adeiladwyd estyniad newydd ar ochr ddeheuol y neuadd, estyniad sy'n cynnwys caffi a thoiledau newydd.
Mae'r maes parcio newydd o fudd mawr ac fe'i goleuir yn ddigost, yn sgil y paneli solar a'r tyrbinau gwynt.
Rheolwyd y cytundeb gan gwmni Wakemans o Gaernarfon a nhw oedd yn gyfrifol am gymeradwyo pob taliad.
Wakemans hefyd wnaeth ddrafftio'r holl ddogfennau tendr.
Ariannwyd y gwaith drafftio yma trwy grant cychwynnol o £8,500 o Fantell Gwynedd ynghyd ag arian o Gyngor Gwynedd a'r neuadd ei hun.
Daeth arian y neuadd o elw cyngherddau a gynhaliwyd, yn ogystal ag o gyfraniadau preifat lleol.
Ni fyddai'r holl waith wedi hod yn bosibl heb y grant o £446,663 a dderbyniwyd o Gronfa'r Loteri, Y Cynulliad, Cyngor Gwynedd a Chronfa Gymunedol Treth Tirlenwi.
Cafwyd cyfraniad o'r Cyngor Cymuned hefyd a defnyddiwyd yr arian hwnnw i gyllido'r adnoddau technoleg gwybodaeth.
Bu'r ffynonellau grant hefyd yn gymorth o safbwynt ariannu'r Parc Chwarae newydd yn Dyffryn, prosiect a gostiodd £75,000.
Roedd yna gefnogaeth ardderchog i'r gwaith adnewyddu o gyfeiriad Ymddiriedolwyr a Phwyllgor y Neuadd.
Mae'r gwaith adnewyddu wedi ei gwblhau a does ond man eitemau sy'n dal i hawlio sylw.
Mae'r caffi ar agor drwy'r dydd, chwe diwrnod yr wythnos.
Galwch heibio am luniaeth ysgafn.
Gellir defnyddio adnoddau cyfrifiadurol gyda mynediad i'r we am ffi fechan.
 |