91¸£ÀûÉç

Explore the 91¸£ÀûÉç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91¸£ÀûÉç 91¸£ÀûÉçpage
91¸£ÀûÉç Cymru
91¸£ÀûÉç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91¸£ÀûÉç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ardudwy
Llion yn derbyn y wobr Gwobr Elfed Evans
Ionawr 2007
Llion Kerry, Harlech gafodd yr anrhydedd o dderbyn Gwobr Goffa Elfed Evans. Cyflwynir y wobr yn flynyddol i'r disgybl mwyaf addawol a chyson yn chwaraeon.
Golff yw gêm Llion ac mae'n chwaraewr ifanc llwyddiannus iawn. Mae'n aelod allweddol o dîm Golff dan 16 Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol ac mae wedi bod yn aelod pwysig o dîm Golff Gogledd Cymru dan 16 am ddwy flynedd.

Yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Ardudwy, nid golff yn unig âi a'i fryd. Roedd hefyd yn chwaraewr rygbi brwd ac yn aelod gwerthfawr o'r tîm athletau.

Daeth yn ail am daflu'r waywffon yng Nghystadleuaeth Ysgolion Eryri. Yn ogystal, treuliai ei amser hamdden yn hyfforddi'r disgyblion iau mewn athletau. Yn wir, mae'n parhau i gyfrannu i'r ysgol trwy gynorthwyo gyda hyfforddi'r tîm rygbi.

"Roedd Llion yn esiampl i'r disgyblion iau ac rydym yn falch dros ben o 'i lwyddiannau " meddai'r Prifathro, Tudur Williams.

Cynigir y wobr er cof am Elfed Evans, cyn ddisgybl ac athletwr o fri.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91¸£ÀûÉç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91¸£ÀûÉç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý