91¸£ÀûÉç

Explore the 91¸£ÀûÉç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91¸£ÀûÉç 91¸£ÀûÉçpage
91¸£ÀûÉç Cymru
91¸£ÀûÉç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91¸£ÀûÉç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ardudwy
Y cwpwrdd arddangos Cwpwrdd arddangos
Chwefror 2010
Beth amser yn ôl cyflwynodd Derwyn Evans, Trem y Garth, Llandecwyn nifer o ddarnau o offer i ofal pwyllgor y Neuadd Gymuned.

Offer oedd y rhain a arferai gael eu defnyddio i dorri tywyrch ar y glasdraeth yn Nhalsarnau.

Mae'r offer ynddynt eu hunain yn ddarnau diddorol iawn, ac yn arbennig felly'r erfyn a ddefnyddiwyd i dorri'r tywyrch yn eu hyd a'u lled.

Olwyn finiog ar flaen coes o bren wedi ei gosod yn y fath ffordd ag i sicrhau y byddai pob tywarchen yr un trwch.

Erfyn hefyd, mae'n debyg, fyddai'n gofyn am gryfder sylweddol a chymryd y byddai angen ei drin am rai oriau ar y tro.

Bellach mae'r offer yn ddiogel ac yn ddiddos mewn cwpwrdd pwrpasol ym mynedfa'r Neuadd Gymuned, fel y gallant gael eu harddangos i'r sawl sydd am eu gweld.

Teimlwn yn arbennig o falch am i Derwyn gyflwyno'r offer inni, gan eu bod bellach yn adrodd rhan o stori'r diwydiant unigryw hwn fu'n digwydd yma yn ardal Talsarnau. Mae'r hanes i'w gael yn llawn ar safle we Talsamau.

Hoffem gydnabod y gwaith ardderchog a wnaed ar lunio ac adeiladu'r cwpwrdd gan Iddon Davies, yn wreiddiol o Llechollwyn, un o hogiau'r ardal ae yn saer penigamp.

Hoffem hefyd gydnabod cyfraniad grant gan Gronfa Cist Gwynedd a hefyd gan Barc Cenedlaethol Eryri tuag at y costau o adeiladu a gosod y cwpwrdd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91¸£ÀûÉç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91¸£ÀûÉç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý