Rhedwyr trawsgwlad o fri Mawrth 2007 Mae dau o ddisgyblion Ysgol Ardudwy wedi llwyddo i ennill eu lle yn Nhîm Trawsgwlad Ysgolion Eryri a fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Trawsgwlad Ysgolion Cymru yn Aberhonddu'r mis yma.
Llwyddodd Victoria Mitchelmore (genethod canol) ac Ieuan Williamson (bechgyn iau) i ennill eu lle trwy orffen yn uchel yn eu rasus ym Mhencampwriaeth Trawsgwlad Ysgolion Eryri yn Nolgellau yn ddiweddar.
Maent yn awr yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn goreuon Cymro a'r gobaith yw cael eu lie yn nhîm Ysgolion Cymro a fydd yn cystadlu yn erbyn Ysgolion Lloegr, Iwerddon a'r Alban yn Nulyn ddiwedd mis Mawrth.