91¸£ÀûÉç

Explore the 91¸£ÀûÉç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91¸£ÀûÉç 91¸£ÀûÉçpage
91¸£ÀûÉç Cymru
91¸£ÀûÉç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91¸£ÀûÉç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ardudwy
Cyflwyno'r siec Delyth ar daith
Gorffennaf 2006
Ar 3 Mehefin eleni cwblhaodd Delyth Jarrett (Glanrhos, Dyffryn gynt), daith noddedig er budd Uned Meirion, Ysbyty Dolgellau.

Cychwynnodd o'u cartref Hendre Fawr, Bronaber, Trawsfynydd gyda Glyn, y gŵr, a cherdded i fyny drwy blwy Llawrplwy i gyfeiriad y Rhinogydd.

Drwy Ddrws Ardudwy a throsodd i fferm Maes y Gamedd, Cwm Nantcol lle y'u disgwylir yno gan Wil ac Ann a oedd yn diogelu eu beics ar gyfer yr ail ran o'r daith sef beicio o Gwm Nantcol i Ysbyty Dolgellau.

Cymerwyd tair awr i gerdded a dwy awr a banner i feicio. Mwynhawyd tywydd arbennig ar y daith a'r golygfeydd o ben Drws Ardudwy a'r Allt Fawr uwchben-Dyffryn yn wefreiddiol.

Dymuna Delyth drwy gyfrwng y Llais ddiolch i drigolion Ardudwy am eu haelioni drwy ei noddi. Diolch arbennig i Elinor, Dolafon am ei chymorth i fynd o amgylch i gasglu gyda ffurflenni (gan obeithio y gwnaiff y daith gyda mi tro nesa ... !). Diolch hefyd i Wil ac Ann am warchod y beics i ni.

Erbyn hyn rydw i wedi trosglwyddo'r cyfanswm o £1056.60 i gronfa Uned Meirion, Dolgellau.

Fel y gwyddoch mae nhad (Ned Thomas neu Ned yr Ynys) wedi bod yn glaf yn yr uned yma ers rhai misoedd bellach a mawr yw ein dyled i'r nyrsys a staff y ward am eu gofal diflino.

Manteisiaf ar y cyfle yma i ddiolch i gymdogion a ffrindiau pell ac agos am eu ffyddlondeb, a'u hymweliadau ag ef; rydym fel teulu yn gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91¸£ÀûÉç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91¸£ÀûÉç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý