 |
 |
Gerddi gwych Mae'r gogledd orllewin yn enwog am ddrama a phrydferthwch ei thirlun gwyllt ond mae digonedd o erddi lleol i fynd am dro iddynt i fwynhau prydferthwch natur a chwilio am dips garddio. |
 |
 |
 |
Dyma ddetholiad o'r llefydd i fynd am dro a braslun o be sydd ar gael a phryd a sut i fynd yno. Neu gadewch inni wybod am drysorau eraill ymysg gerddi'r fro.
 |
 |
 |
 |
 |  |
 |
 |
Bodnant
Cydnabyddir gerddi Bodnant fel un o rai prydferthaf Prydain. |
 |
 |
 |
 |
Bryn Eisteddfod
Arddangosfa o ddulliau garddio dros dair canrif yn Nyffryn Conwy. |
 |
 |  |  |  |
 |
 |
Carreglwyd
Gerddi coediog a llyn yn amgylchynu plasty o'r 17eg Ganrif ym M么n. |
 |
 |
 |
 |
Castell Gwydir
Gardd restredig sy'n gartref i baenod a phlasty Tuduraidd. |
 |
 |  |  |  |
 |
 |
Castell Penrhyn
Golygfeydd hyfryd a gardd Fictoraidd yn y plasty enwog ger Bangor. |
 |
 |
 |
 |
Y Fach
Gerddi ffurfiol ac anffurfiol yn edrych allan dros Fae Llandudno. |
 |
 |  |  |  |
 |
 |
Gerddi Haulfre
Llwybrau a gerddi sy'n rhedeg dros y Gogerth lawr i dref Llandudno. |
 |
 |
 |
 |
Plas Brondanw
Gardd o wahanol 'stafelloedd' wedi'u dylunio gan bensaer Portmeirion. |
 |
 |  |  |  |
 |
 |
Plas Newydd
Gerddi godidog a chartre'r Marcwis ar lannau'r Fenai ym M么n. |
 |
 |
 |
 |
|
 |
 |  |  |  |
 |
 |
Plas yn Rhiw
Mae hanes difyr i'r gerddi hyn 芒 golygfeydd dros Fae Ceredigion. |
 |
 |
 |
 |
Portmeirion
Gerddi anffurfiol a choetir o amgylch pentref nodedig Portmeirion. |
 |
 |  |
|
|
|