|
Mae yno gylch o gerrig yr orsedd a godwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llandudno a'r Cylch ym 1963.
Mae'r llwybrau yn croesi rhwng pyllau bach, llwyni, blodau a choed y gerddi mwy ffurfiol, sydd wedi'u hamgylchynu gan goed a glaswelltir y Gogarth.
Mynediad: Ceir llefydd parcio a thoiledau i'r anabl yn ogystal 芒 lle chwarae gyda throgylch i'r anabl. Mae rampiau ar y llwybr fel y gall unrhyw un fynd i ganol y gerddi addurniadol. Mae digonedd o lefydd i eistedd i gael hoe ac mae mynediad llawn i'r caffi.
Lleoliad: Y Fach (Happy Valley), Marine Drive, Llandudno.
Cyfarwyddiadau: Dilynwch Marine Drive, sy'n arwain heibio i'r Fach o bromen芒d Traeth y Gogledd.
 |