 |
 |
 |
Plas yn Rhiw Plasty bychan o'r 16eg Ganrif ydy Plas yn Rhiw, a gafodd ei adfer i'w gyflwr gwreiddiol gan y dair chwaer Keating a'i prynodd yn 1938. |
 |
 |
 |
Mae golygfeydd gwych dros Fae Ceredigion o'r gerddi, ac maent yn cynnwys gerddi addurniadol lle mae coed a llwyni blodau diddorol yn tyfu, gyda gwl芒u wedi eu fframio gan wrychoedd pren bocs a llwybrau glaswellt.
Mae sbloets o eirlysiau a chlychau'r gog i'w gweld yn y coed yn y gwanwyn a'r haf ac mae llefydd i gael picnic ar gael ar hyd llwybrau'r coed hefyd. Hanes Plas yn Rhiw
Amser agor: Y t欧 a'r gerddi:
31 Mai - 30 Medi 2006, 12pm i 5pm dydd Llun, Mercher, Iau, Gwener, Sadwrn a Sul. Hydref 1 - Hydref 22 2006, penwythnosau'n unig. 23 Hydref - 29 Hydref 2006, bob dydd. Bydd y gerddi hefyd ar agor ar rai penwythnosau ym mis Ionawr a Chwefror, pan fydd yr eirlysiau yn eu blodau.
Mynediad: Mae mynediad i gadeiriau olwyn ar gael ar y llawr gwaelod, ac mae ffeil luniau wrth law ar gyfer gweddill yr adeilad. Mae llwybrau anwastad a chul yn y gerddi ac fe allai parcio fod yn broblem. Mae toiledau i'r anabl ar gael yn y maes parcio. Arweiniad Braille hefyd ar gael.
Lleoliad: Plas yn Rhiw, Rhiw, Pwllheli, Gwynedd LL53 8AB.
Cyfarwyddiadau: Dilynwch y B4413 o Bwllheli ar hyd y ffordd i Fotwnnog. Parhewch i ddilyn yr arwyddion am Blas yn Rhiw.
 |
 |
 |
 |
|
|
|