91¸£ÀûÉç

Explore the 91¸£ÀûÉç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91¸£ÀûÉç 91¸£ÀûÉçpage
91¸£ÀûÉç Cymru
91¸£ÀûÉç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91¸£ÀûÉç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llanw Llyn
Cowbois Rhos Botwnnog Cerddorion Ifanc
Mai 2006
Mae'n ymddangos mai Pen LlÅ·n ydy'r Bethesda newydd.
Ychydig o flynyddoedd yn ôl roedd grwpiau newydd yn cael eu geni ym Methesda - grwpiau fel Maffia a Super Fury Animals.

Wedyn mi ddaeth yn dro Blaenau Ffestiniog - gyda grwpiau fel Anweledig ac Estella. Bellach mae'n ymddangos mai Pen LlÅ·n yw deorfa grwpiau Cymraeg newydd.

Ar Bandit, y rhaglen am fiwsig yr ifanc ar S4C yn ddiweddar, ymddangosodd Hefin Jones i sôn am y datblygiadau newydd.

Mae 'na ganu'n digwydd yn rhywle bob penwythnos ar hyn o bryd gyda llefydd fel Y Fic yn Llithfaen, Yr Heliwr yn Nefyn, Tu Hwnt i'r Afon a ThÅ· Newydd, Sarn, yn cynnal gigs gyda grwpiau ifanc Cymraeg yn rheolaidd. Mae Hefin ei hun yn awyddus iawn i grwpiau chwarae yn Nhafarn TÅ· Newydd, gyda chyfanswm o 13 o grwpiau am ymddangos yno yn ystod mis Mai.

Sêr y rhaglen Bandit oedd Cowbois Rhos Botwnnog: tri o frodyr Yr Erw, Botwnnog, Iwan, Dafydd ac Aled Huws ydy'r Cowbois. Maent yn jamio efo'i gilydd ers blynyddoedd wrth gwrs ond fe wnaethant eu hymddangosiad cyntaf yn y Fic Llithfaen, flwyddyn yn ôl bellach.

Mi wnaethant gryn argraff ar y rhaglen Bandit, ac mi roedden nhw'n edrych yn dda yn eu cotiau cochion a'r gaseg, Gwen, yn rhan o'r sioe.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91¸£ÀûÉç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91¸£ÀûÉç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý