91¸£ÀûÉç

Explore the 91¸£ÀûÉç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91¸£ÀûÉç 91¸£ÀûÉçpage
91¸£ÀûÉç Cymru
91¸£ÀûÉç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91¸£ÀûÉç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llanw Llyn
Rhai o'r criw Sioe pen draw'r byd
Roedd y tocynnau i weld criw o bobol Aberdaron a'r cyffiniau yn perfformio sioe Pen Draw'r Byd yn Neuadd Ysgol Botwnnog wedi hen fynd cyn nos Sul, 22 Ionawr.

Roedd y neuadd hefyd yn rhwydd lawn ar gyfer y perfformiad ychwanegol gafodd ei drefnu ar fyr rybudd ar gyfer y nos Sul canlynol.

"Ym mhle," holodd rhaglen y noson, 'y crogwyd drwgweithredwyr ardal Aberdaron flynyddoedd yn ôl? Pwy fu'n cael seintwar yn eglwys Sant Hywyn? A beth fu Owain Glyndŵr yn ei wneud ym mhen draw'r byd?"

Cafwyd yr atebion drwy gyfrwng sgript a chaneuon Huw Erith a Gwenda Williams, efo Nia Williams ac Alaw Tecwyn yn cyfansoddi rhai o'r alawon.

Rhoddwyd sglein ar y cyfan o dan gyfarwyddyd Lowri Mererid.

Mae pobol ardal Aberdaron yn falch iawn o'u hanes; mi fedran nhw fod yn falch iawn o'r presennol hefyd.

"Efallai," meddai awdur y rhaglen, "y cawn weld rhywbeth tebyg eto y flwyddyn nesaf."

Gobeithio'n wir - roedd hon yn noson i'w chofio.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91¸£ÀûÉç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91¸£ÀûÉç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý