Agor, Agor, Agor Hydref 2004 Agor estyniad newydd i Ysgol Pentreuchaf.
Y gŵr gwadd oedd y Prifardd Myrddin ap Dafydd, sydd hefyd yn rhiant yn yr ysgol.
Defnyddir y dosbarth newydd gan blant ieuengaf yr ysgol, sef y dosbarth meithrin a'r dosbarth derbyn. Mae'r gofod ychwanegol yn werth chweil ac o fantais anuniongyrchol i blant eraill yr ysgol hefyd.
I gyd-fynd ag agoriad swyddogol yr adeilad, dadorchuddiwyd mosaig teils sy'n adlewyrchiad o fywyd yr ardal.
Mae llun o'r mosaig i'w weld ar y chwith.
Elliw o Rhiwbeina Caerdydd Diwrnod yn llawn atgofion, hyfryd oedd cael mynd yn ol i ddyddiau plentyndod a chyfarfod a ffrindiau bore oes,diolch am drefnu.