91福利社

Use 91福利社.com or the new 91福利社 App to listen to 91福利社 podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,05 Mar 2026,54 mins

Ydi p锚l-droed yn ddiflas?

Y Coridor Ansicrwydd

Available for 259 days

Oes 'na ormod o basio a dim digon o gyffro yn y g锚m fodern? Ydi ciciau cornel wedi mynd dros ben llestri go iawn? Ydi Malcolm wedi clywed gan Snoop Dogg ers ei rap bythgofiadwy? Oes, mae 'na gwestiynau dyrys i'w hateb ar y bennod yma... Mae'r criw yn cychwyn gyda'r pwynt gwerthfawr lwyddodd Cymru i gipio wrth agor y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2027 gyda g锚m gyfartal yn y Weriniaeth Siec. Canlyniad da, ond perfformiad siomedig. Roedd 'na ragor o ddathlu i'r Seintiau Newydd nos Fawrth wrth iddyn nhw gael eu coroni'n bencampwyr Cymru Premier am y pumed tymor yn olynol. Mae Casnewydd wedi codi allan o'r ddau safle isaf am y tro cyntaf mewn pum mis ar 么l curo Tranmere Rovers, ac am gol sgoriodd Dylan Lawlor i Gaerdydd (doedd honno ddim yn ddiflas)! Ac mae hi'n benwythnos mawr yn y gwpan wrth i Wrecsam groesawu mawrion Chelsea, tra bod Cwpan Cymru yn cyrraedd y pedwar olaf. Blwyddyn y Cofis o'r diwedd?

Programme Website
More episodes