Main content

Ydi p锚l-droed yn ddiflas?

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n gofyn os oes 'na ormod o basio a dim digon o gyffro yn y g锚m fodern.

Oes 'na ormod o basio a dim digon o gyffro yn y g锚m fodern? Ydi ciciau cornel wedi mynd dros ben llestri go iawn? Ydi Malcolm wedi clywed gan Snoop Dogg ers ei rap bythgofiadwy? Oes, mae 'na gwestiynau dyrys i'w hateb ar y bennod yma...

Mae'r criw yn cychwyn gyda'r pwynt gwerthfawr lwyddodd Cymru i gipio wrth agor y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2027 gyda g锚m gyfartal yn y Weriniaeth Siec. Canlyniad da, ond perfformiad siomedig.
Roedd 'na ragor o ddathlu i'r Seintiau Newydd nos Fawrth wrth iddyn nhw gael eu coroni'n bencampwyr Cymru Premier am y pumed tymor yn olynol. Mae Casnewydd wedi codi allan o'r ddau safle isaf am y tro cyntaf mewn pum mis ar 么l curo Tranmere Rovers, ac am gol sgoriodd Dylan Lawlor i Gaerdydd (doedd honno ddim yn ddiflas)!
Ac mae hi'n benwythnos mawr yn y gwpan wrth i Wrecsam groesawu mawrion Chelsea, tra bod Cwpan Cymru yn cyrraedd y pedwar olaf. Blwyddyn y Cofis o'r diwedd?

Release date:

8 months left to listen

54 minutes

Podcast