Mae adran Graffeg a Gweledol 91福利社 Cymru yn arbenigwyr mewn dylunio graffeg, VFX a VR yn y stiwdio. Bydd ein dylunwyr yn eich arwain ac yn cydgweithio gyda chi i adrodd straeon drwy ddylunio effeithiol ar draws cyfryngau amrywiol ar bob platfform.
Gan weithio ar draws amrywiaeth o frandiau'r 91福利社 yn ogystal â'r Sector Annibynnol, mae gennym ni'r gallu i ddylunio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau gan ddod â chyfoeth eang o brofiad i bob prosiect.
Ein gwasanaethau graffeg
TX Byw a fel petai yn fyw, cyn-gynhyrchu a 么l-gynhyrchu ar gyfer: Darlledu, Digwyddiadau, Hyrwyddiadau/Trels, Digidol (ar-lein, gwe a chymdeithasol), Argraffu (gan gynnwys pamffledi, hysbysebion, taflenni a phosteri), Graffeg Gwybodaeth, Props, Sioeau, Brand, Symudiad, CGI, VFX, setiau VR/AR, Animeiddio, Cloriau Podlediad a delweddau iPlayer
Genres: Newyddion a Materion Cyfoes, Chwaraeon, Dogfennau, Ffeithiol, Adloniant, Cerddoriaeth, Celfyddydau, Drama, Marchnata, Digwyddiadau, Cynyrchiadau Creadigol
Cleientiaid: 91福利社, S4C, C4, C5, Avanti, Media Atom, Whisper, Cardiff Productions, Bad Wolf, Cinematic, Little Wander, Turtle Canyon
Mwy o wybodaeth
Cysylltwch 芒 ni
I holi am ddefnyddio Stiwdios Teledu 91福利社 Cymru, Cyfleusterau Darlledu Allanol, Radio, Ôl-gynhyrchu neu gyfleusterau Dylunio Graffeg ar draws pob genre o gynhyrchu teledu a sain, anfonwch ymholiadau a cheisiadau am ddyfynbris i: walesopsenquiries@bbc.co.uk