91¸£ÀûÉç

Use 91¸£ÀûÉç.com or the new 91¸£ÀûÉç App to listen to 91¸£ÀûÉç podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Colli ffrind agos yn ysgogiad i ddechrau busnes

Beti a'i Phobol

Available for over a year

'Mae bywyd yn fyr, os chi eisiau gwneud rhywbeth sydd o fewn gafael, gwnewch ef. Hi oedd y rheswm i fi fyw yn yr eiliad' 5 mlynedd nol, bu farw Sheila, ffrind gora Hannah Parr yn frawychus o sydyn. Roedd y ddwy yn sgwrsio am 9.30 y bore ar y ffon, ac erbyn 11 y bore hwnnw roedd Sheila wedi syrthio i lawr y grisiau a tharo ei phen. Bu hi farw yn yr ysbyty ychydig ddyddiau wedyn gan adael 3 o blant. Roedd hyn yn brofiad ysgytwol i Hannah ac yn hwb iddi i beidio cymryd dim byd yn ganiataol. Roedd hi wedi bod eisiau agor siop ers ei chyfnod yn Sydney – a mwyaf sydyn daeth gofod i fyny yn y lleoliad delfrydol, a meddyliodd hi ‘Pam ddim’ rown gynnig arni. Beti George sydd yn cael cwmni Hannah Parr sydd yn sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru ac yn Horse of the year. Mae Hannah hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan; yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho; ac mae ganddi siop ddillad yn Aberaeron sydd yn apelio at bobol sy'n byw yng nghefn gwlad, ac mae hi'n cael cymorth ei rhieni i redeg y busnes ac i ofalu am y ceffylau. Fe symudodd y teulu i Gymru o Birmingham pan oedd Hannah yn 5 oed, 'roedd hi'n fodlon symud os oedd ei thâd yn fodlon prynu dolffin neu geffyl iddi. Cadwodd ei thad ei air, a daeth y merlen yn ddechrau ar daith newydd i’r teulu, a fyddai’n cysylltu’n agos â gyrfa Hannah heddiw.

Programme Website
More episodes