Episode details

Available for over a year
Bardd mis Tachwedd 2022, Mererid Puw Davies, sy'n ymateb i'r argyfwng costau byw ar y rhaglen 'Gwneud Bywyd yn Haws'. Rys谩it i Gadw Dau Ben Llinyn Ynghyd (ar 么l G眉nter Grass) I greu y saig mwyaf moethus, mynned doriadau gorau y cig: y golwyth, yr ysgwydd, y goes. Ond i鈥檙 sawl sydd am fyw鈥檔 gynnil, cofied ein neiniau darbodus yn paratoi鈥檙 scrag am oriau ers talwm, y ffrei oen, y cigach, y syrth; y wermod a鈥檙 frywes a鈥檙 potes pig tegell. Ac os yw鈥檙 prynhawn yn mynd yn hirbryd dewised y lobsg贸ws troednoeth ateged lwyeidiau o ffacbys a ffa; rhoed gynnig gobeithiol ar bopty brys. A gall rhywun sy鈥檔 syllu yn llygad y geiniog agor tuniau o datws i arbed y nwy a鈥檜 halltu鈥檔 hael 芒 gofal. Ychwaneged fel tamaid i aros pryd fesur o geirch neu ddogn o fran a phupur sy鈥檔 eger fel pryder. Gosoded y bwrdd 芒 lliain main gofid a鈥檌 addurno ag addewidion; ac yn y pen draw, gweined y pryd 芒 dyrnaid fawr iawn o ddim.
Programme Website