Episode details

Radio Cymru,14 mins
Cofiant i'r awdures liwgar o Geredigion, Marguerite Jervis.
Stiwdio gyda Nia RobertsAvailable for over a year
Roedd Marguerite Jervis yn awdures doraethog, yn actores ac yn gynhyrchydd theatrig a fu'n byw a sydd wedi ei chladdu yng Ngheredigion. Erbyn hyn ychydig iawn sy'n cofio amdani ac mae'n debyg fod ei llwyddiant wedi ei gysgodi gan enwogrwydd ei gwr, yr awdur dadleuol Caradog Evans. Mae Liz Jones newydd gyhoeddi cofiant sydd yn rhoi'r sylw haeddianol i Marguerite ac yma mae'n trafod pam ei bod wedi gwneud hynny, yng nghwmni'r awdur a'r darlledwr Lyn Ebenezer, sydd gan atgofion personol o Marguerite a Caradog.
Programme Website