Episode details

Available for over a year
Yr Eos yng Nghaergaint (efallai) Es i fy ngwely'r un pryd a鈥檓 mab, am saith yr hwyr, ar ddechrau haf, sydd ddim yn hwyr yr adeg honno, roedd golau dydd yn dal i oleuo rhimyn gwyn rhwng llen a wal, a鈥檙 adar yn y coed yn dal i ganu, ond roedd y mab bach wedi blino. Gorweddais yno鈥檔 gwrando arno鈥檔 rhestru鈥檌 fyd, gorweddais yno鈥檔 dweud dim byd, am gyfnod maith, mewn stafell boeth, mewn gwely llaith, nes dechreuodd nos grynhoi yn byllau du o dan y bondoi, A nes clywais, rywle draw, can a oedd fel pe bai llaw y nos ei hun wedi鈥檌 gosod arna鈥檌, Ac o鈥檌 chlywed, es i gysgu.
Programme Website