Episode details

Available for over a year
Cerdd gan fardd y mis Morgan Owen i ddathlu Dydd Santes Dwynwen. Codi鈥檙 haenau dwfn; tynnu鈥檙 egin o鈥檙 pridd; disgwyl y dydd heb weld y glasu ac esgyn heb sylwi i鈥檙 brig; cyrchfan i鈥檙 crwydro fu gynt heb nod; lluwchfeydd manod; y llawr danat pan fo鈥檙 byd yn llwm; dwy galon yn fwrlwm; gwybod fod s锚r o hyd hwnt i olau鈥檙 ddinas; cymod galanas; carreg ateb i lais unig; ailgodi鈥檙 meini ysig; adnabod mewn torf; meysydd haf heb oror; wedi tryblith, hedd; weithiau anhunedd; breuddwyd nad oes mo鈥檌 diwallu, a鈥檙 byd ar wastad dau: ni.
Programme Website