Episode details

Available for over a year
Cura鈥檙 plant bach wrth y drws. Glyn yn flaidd a Ffebi鈥檔 wrach. Direidus fwganod y nos. Sibrwd a chwerthin yn y d眉wch. Eu hwyliau a鈥檜 hofn sy鈥檔 creu鈥檙 naws. Colur gwyn a du a choch. Llieiniau gwyn a gwaed ffug, coch. Yn hel loshin o ddrws i ddrws. Hwyl a dychryn yn rhan o鈥檙 naws. Fampir yw Twm brawd Ffebi鈥檙 wrach. Chwerthin a sibrwd yn y d眉wch. Pwmpen fawr yn goleuo鈥檙 nos. Masg arswydus oren y nos. Lliwiau braw; gwyrdd, porffor, coch. Lynfan鈥檔 gysgod yn y d眉wch Wrth i Miss Jones ateb y drws A hithau wedi鈥檌 gwisgo鈥檔 wrach. Hen rai hefyd yn licio鈥檙 naws. Noswaith draddodiadol ei naws. Plant a meirw鈥檔 crwydro鈥檙 nos, Fampir, ystlum, sgerbwd a gwrach. Glyn y bleidd-ddyn a鈥檌 safn yn goch. Dyma鈥檙 criw eto wrth y drws, Yn sefyll yno yn y d眉wch. Criw chwareus yn y d眉wch. Fel鈥檔a mae, yn gymysg ei naws, Y gwyll yn chwennych golau鈥檙 drws, Ffin rhwng gwawl a mwrllwch y nos. Difyrrwch gwyn, llawenydd coch, Loshin melys ar wefus gwrach. Nawr mae blinder yn drech na gwrach Dan flanced hudol y d眉wch. Llygaid plant i gyd yn goch A phob un yng ngafael rhyw naws Gysglyd a hwyl ac ofn y nos Yn dirwyn i ben wrth y drws. Wybren goch hiraethus ei naws, Breuddwyd gwrach mewn si么l o dd眉wch Gefn trymedd nos a鈥檙 gaeaf wrth y drws.
Programme Website