Episode details

Available for over a year
I Ll欧r Serw ap Glyn Heddiw, i Lanrwst daeth dydd o haf i gofleidio gwanwyn, daeth moto beics i sgrytian oglau鈥檙 Gogarth hyd y stryd a thros y bont daeth rhai i weld yr haul yn taenu鈥檌 liw yn nrych yr afon. A heddiw, yn Llanrwst Serw sydd yn Gae Llan o groeso, yn sicrwydd mewn storm, yn Sadwrn ymhob Sul, yn dynnu coes, yn ewyllys. O鈥檌 gadair ger y ffenest Serw sydd yn cyrraedd y Carneddau a Serw sydd yn ymestyn at yfory ei Gymru gyda gw锚n. Diflannodd yr haul, distawodd y moto beics, dychwelodd rhai yn 么l dros y bont ond yn Llanrwst, Serw sydd yn gymar ac yn dad cadarn, yn fab ac yn frawd o haearn.
Programme Website