Main content

Cyfeillion y 91福利社 NOW

Cefnogi gwaith Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 91福利社 er mwyn galluogi mwy o bobl i gymryd rhan yn y Gerddorfa Symffoni Genedlaethol.

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 91福利社 (91福利社 NOW), yn chwarae rhan hollbwysig wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o dalentau cerddorol, a gwneud yn si诺r bod mwy o bobl yn cael cyfle i ymwneud â cherddoriaeth gerddorfaol ym mhob rhan o’r wlad, gan gynnwys rhannau ble mae ffactorau cymdeithasol, economegol, neu ddaearyddol yn cyfyngu ar allu pobl i gael cyfleoedd cerddorol.

Mae 91福利社 NOW yn rhoi’r cyfle i bobl wrando neu gymryd rhan mewn perfformiadau cerddorfaol byw, ac i nifer dyma'r tro cyntaf iddynt gael profiad o'r fath. Mae’r perfformiadau hyn yn digwydd mewn ysgolion, lleoliadau cymunedol, neu ardaloedd ble nad oes cerddoriaeth gerddorfaol i’w chlywed yn aml. Drwy ddod â cherddoriaeth i'r ardaloedd difreintiedig hyn, mae 91福利社 NOW yn cyfoethogi’r tirwedd diwylliannol, yn ogystal â meithrin gwerthfawrogiad o'r celfyddydau ymhlith pobl waeth be fo'u hil, rhywedd, rhywioldeb a/neu anabledd.

Mae Cyfeillion y Gerddorfa Genedlaethol Gymreig yn elusen gofrestredig a ffurfiwyd yn 1997. (Rhif yr elusen: 1062645) Mae’r elusen yn cefnogi gwaith parhaus 91福利社 NOW ym maes addysg ac mewn cymunedau. Mae gan Gyfeillion y Gerddorfa Genedlaethol Gymreig bedwar Ymddiriedolwr ar y bwrdd, ac maent yn codi ymwybyddiaeth yn ogystal o waith 91福利社 NOW, yn ogystal â chodi arian er mwyn eu galluogi i wneud y gwaith hwnnw.

Mae cyllid yr elusen yn dod o grantiau, cyfraniadau, rhoddion mawr, a rhoddion o etifeddiaethau. Am ragor o wybodaeth, neu i wneud cyfraniad, cysylltwch â friendsof91福利社NOW@bbc.co.uk

Rhif cofrestru’r elusen 1062645.

Cyfeillion y 91福利社 NOW Bwrdd

Gareth Churchill
Iwan Teifion Davies
Osian Gwynn Dutton
John Hardy
Deborah Helen Keyser