Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth
Mae Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn dathlu'r bobl sy'n gwella'n cymunedau er lles eraill.
Mae'r enwebiadau nawr wedi cau.
Ym mis Medi, byddwn ni'n cynnal seremonïau gwobrwyo ar draws y DU gan roi llwyfan i'r arwyr tawel rheiny.
Am ragor o wybodaeth a manylion, ewch i dudalen y Gwobrau.
Cliciwch i enwebu
-
Gwobr Gwirfoddolwr
Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud gwahaniaeth amlwg yn eu cymuned drwy roi eu hamser yn wirfoddol er mwyn helpu eraill.
-
Gwobr Arwr Ifanc
Dyma wobr i rywun dan 16 mlwydd oedd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol.
-
Gwobr Cymydog Arbennig
Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud y gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddi, unai'n gyson neu drwy un weithred garedig.
-
Gwobr Actif
Dyma wobr i unigolyn neu gr诺p o bobl sydd wedi defnyddio ymarfer corff neu chwaraeon fel ffordd o wella bywydau'r sawl sy'n byw yn eu cymuned.
-
Gwobr Anifail
Dyma wobr i anifail sy'n gwella bywyd unigolyn neu gr诺p o bobl; neu, berson neu gr诺p o bobl sy'n gweithio gydag anifeiliaid i wella lles anifeiliaid.
-
Gwobr Werdd
Dyma wobr i unigolyn neu gr诺p o bobl sy'n gwella neu'n gwarchod yr amgylchedd yn eu hardal leol.
-
Gwobr Codi Arian
Dyma wobr i unigolyn neu gr诺p sydd wedi mynd yr ail filltir wrth godi arian at achos da.
-
Gwobr Gr诺p Cymunedol cefnogir gan Morning Live
Dyma wobr i gr诺p o bobl sydd wedi helpu i newid bywydau pobl yn eu cymuned.