Cerddi Rownd y Chwarteri 2026
Pennill bachog yn mynegi balchder
Ffoaduriaid
Rhyw wlad oer rhy lwyd yw hi, dan aeaf
di-newid, ond ’leni
mae’r gwanwyn lond y llwyni;
môr o wyrdd yw Nghymru i.
Gruffudd Owen 9.5
Talybont
Rwyf mor browd – rwyf lan ar y copa
A theimlad llawn gwres yn fy mola.
Am fod Rhun yn ei fri
Ac am senedd llawn bri?
Jiw na – am ein bod ni yn yr wyth ola.
Anwen Pierce 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘llw’
Ffoaduriaid
Tyngu llw maen nhw i ni’n
hyderus... cyn ei dorri.
Gethin Wynn Davies 8.5
Talybont
Pan fo’r blys ym mhob cusan
hawdd yw llw yng ng诺ydd y llan.
Anwen Pierce 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘mae rhai o aelodau’r clwb darllen’
Ffoaduriaid
Mi drefnais affêr gyda Bronwen
a'i chymryd i restront am stecen
mewn tref bell i ffwrdd...
ond nesaf i'n bwrdd
mae rhai o aelodau’r clwb darllen.
Gethin Wynn Davies 8.5
Talybont
Mae rhai o aelodau’r clwb darllen
yn methu yn lân troi tudalen.
Dywedais yn syth
rhaid sweipio i’r chwith,
neu glicio ar ben y llygoden.
Gwenallt Llwyd Ifan 8
Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Nid oes gohirio'r un dasg a erys’
Ffoaduriaid
Hel Llus
Nid oes gohirio’r un dasg a erys
sef mentro’n dawel i’r mynydd melys;
hel un haf arall i’m côl yn farus.
Os caf, os medraf, bydd dwylo medrus
yn medi drwy’r llwyni llus. Mae’n dymor
i gnwd ail-iro’r hen gnawd dolurus.
Gruffudd Owen 10
Talybont
Sycharth
Un Mai a welodd y blodyn melys
yn wlad i werin, yn hil hyderus.
Â’u muriau hithau’n senedd afieithus,
i’r gorwel tawel y mae’n ein tywys.
I’r lle hwn ar dir y llys – down eto,
Nid oes gohirio’r un dasg a erys.
Gwenallt Llwyd Ifan 10
Pennill ymson gwahadden
Ffoaduriaid
Mae’n dywyll fel stafell Gynddylan,
wrth durio, dan ddaear, fy hunan.
Ydw i’n ciwt, neu ydw i’n hyll?
Does fawr o wahaniaeth yn y gwyll.
Creu twnel hir yw f’unig nod.
Does ryfedd mod i'n hollol bored.
Falle sgwennaf bennill ymson
gan ddychmygu bod yn berson.
Hannah Sams-Jones yn darllen gwaith Gwennan Evans 9
Talybont
Twrch daear bychan ydwyf
dan lawnt grand y T欧 Gwyn,
o wynto’r dom sy lan fan’na
arhosa i lawr fan’yn.
Phil Davies yn darllen gwaith Anwen Pierce 9
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Carnifal
Ffoaduriaid
Er mwyn cael ymgysylltu’n well o fewn eu cymunedau,
roedd trydydd fflôt y carnifal o’r llu diffoddwyr tanau.
Roedd pethau’n iawn am ddeugain llath, a’r staff i gyd yn chwifio
o ben yr injan fawr a choch. Nes iddi ddechrau sbarcio.
Fe ffoniwyd y diffoddwyr tân wrth gefn, i daclo’r blip
ond gweddill staff yr orsaf oedd yn mannio’r lucky dip.
Fe alwyd am yr heddlu i ddod draw i sortio’r mess,
ond nhw oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth ffansi-dress.
A galwad i’r criw ambiwlans oedd y datrysiad ola,
ond roedden nhw’n rhy brysur yn hel gwobrau o’r tombola.
Fe drodd y sbarcs yn fflamau, a chododd rheiny’n uwch,
a’r golau oedd yn dallu, i'r gwrthwyneb o fol buwch.
Roedd torf o blant yn gwenu’n llon ar sgwyddau eu rhieni,
a’r crowd yn dweud ‘mor braf yw cael tân gwyllt eto eleni.’
Ni sylwodd unrhyw un fod hwn yn greisys eitha mawr
heblaw am lu’r pedwerydd fflôt – sef clwb Merched y Wawr.
Fe ddoth y llu’n eu cannoedd gyda’u urns, yn ddigon ffyrnig,
a diffodd tân yr injan gyda grym eu d诺r berwedig.
Ac yn y pwyllgor nesaf, penderfynwyd gan amenio
mai unig swydd diffoddwyr tân ’tro nesaf, fydd stiwardio.
Llio Maddocks 8.5
Talybont
Roedd y Neuadd ‘leni eto am drefnu Cawl a Chân.
Cynigiais drefnu Carnifal cyn i mi ddanto’n lân.
Fe gefais sêl eu bendith, es ati cyn troi rownd,
I drefnu clamp o Fardi Gras; cyllideb - ffiffti pownd.
Holais am dr诺p o ddawnswyr, o ddinas New Orleans,
A stondin fwyd o Lambed, i werthu sglods a bîns.
Ces seindorf jazz o Brechfa i arwain pawb yn glou,
Gan gynnwys dau fand Samba, o’r Neuadd i Gae’r Sioe.
I helpu ‘da’r trefniadau ymunais â’r Clwb Gwawr.
Buom wrthi’n pwytho sequins ar lwyth o G-Strings mawr.
Fe greais ddillad risgi i fartsho gyda’r band,
Cês hassles gyda’r tassles, cyn bo nhw’n siglo’n grand.
Roedd fflôt y Ffermwyr Ifanc yn llawn testosterôn,
A phob un wrthi’n ddyfal yn chwarae ei drombôn.
Ond bore yr achlysur daeth storom ar ein traws,
Er cuddio dan ymbrelos nid oeddem damaid haws.
Fe olchwyd yr holl golur o fochau pawb o’r criw,
Y minlliw oedd yn rhedeg, a theimlwyd siom i’r byw.
Gwelwyd bod dim amdani, rôl trafod nôl a mlân.
Felly aethom oll i’r Neuadd i joio Sglods a Chân.
Phil Davies 9
Ateb llinell ar y pryd - Hawliwn nôl ein cornel ni
Ffoaduriaid
Ym Meirion a Chilmeri
Hawliwn nôl ein cornel ni
Gruffudd Owen 0.5
Talybont
Hawliwn nôl ein cornel ni
A’n dylanwad eleni
Gwenallt Llwyd Ifan
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Arfer
Ffoaduriaid
Roedd hi’n berson trefn
yn berson traddodiad
yn berson defodau
yn berson codi am chwech y bore
gwely cyn deg y nos.
Darllenai’r un papur
gwrandawai ar yr un rhaglenni radio
gwyliai’r un rhaglenni teledu.
Teimlai bopeth mor gyfarwydd,
mor gyfarwydd fel ei bod hi’n teimlo
ei bod wedi byw pob munud o’r blaen.
Ond heddiw,
a’r gwynegon yn glymau,
torrodd yn groes i arfer oes
drwy roi marc mewn blwch gwahanol
a gobeithio.
Hannah Sams-Jones 9
Talybont
‘Rhain oedd ei drydydd pâr o’r sgidiau hyn;
yr un lliw,
yr un maint,
ond ers gorffen gyrru
roedd y sodlau’n para’n hwy.
Heb goc诺n ei gar
fe wrandawodd ar drydar yr adar
ar y ffordd i’r bws.
O’i sedd
gwelodd dros y cloddiau
a chlywodd sgyrsiau gwahanol.
Gartref, cafodd wared o’i sliperi.
Er yn glyd, roedd ei draed yn rhy boeth.
Ag yntau’n rhydd,
camodd i fyd newydd,
un bore Iau o Fai.
Gwenallt Llwyd Ifan yn darllen gwaith Phil Thomas 9.5
Englyn: Drôn
Ffoaduriaid
Tybir bod oddeutu hanner miliwn o filwyr Rwsaidd wedi eu lladd hyd yn hyn yn ystod y rhyfel yn Wcrain.
Yn rheng ar ôl rheng yr aeth – y dynion
di-wyneb i’w harfaeth
yn un wal o ddynoliaeth,
un wal gig beirianol gaeth.
Gruffudd Owen 10
Talybont
(MOD Aberporth)
O hafan ein harbrofi – ni wyddem
Am waddol ein swyddi,
Na’u hannwn heibio’n twyni
na’u tir neb o’n ffatri ni.
Anwen Pierce 9.5