Mae Ynys M么n wedi ei wahanu o'r tir mawr gan yr Afon Menai, gyda dwy bont - Menai a Britannia - yn ei chysylltu. Mae dros 67,000 o bobl yn byw yma, gyda 60% o'r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.
Ceir nifer o ynysoedd o gwmpas yr arfordir, sydd yn ymestyn 126 o filltiroedd, sef Ynys Cybi, Ynys Seiriol, Ynys Llanddwyn ac Ynys Moelfre. Mae Caergybi yn borthladd prysur, gyda gwasanaethau dyddiol yn hwylio i Ddulyn a Dun Laoghaire yn Iwerddon.
Llangefni yw prif dref yr ynys, a lleoliad pencadlys .
Ffeithiau difyr am F么n
Sut i gyrraedd
Cwblhawyd ffordd ddeuol yr A55 yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gan leihau'r amser teithio rhwng y tir mawr a phorthladd Caergybi. Yn ogystal mae ffordd hanesyddol yr A5 yn parhau i fod yn gyswllt pwysig.
Mae gwasanaeth intercity dyddiol rhwng Caergybi a Llundain, ac mae trenau rheolaidd i Fanceinion a Birmingham (ffoniwch Arriva ar 08456 061660 am ragor o wybodaeth). Am fanylion y gwasanaethau bws, ffoniwch 01492 575412, neu rif y National Express, 08705 808080.
Caergybi yw'r fynedfa i Iwerddon, gyda dau gwmni, Stena Line (ffoniwch 08705 707070) ac Irish Ferries, (08705 171717), yn hwylio i Ddulyn a Dun Laoghaire.
Prif atyniadau
Mae M么n yn enwog am ei thraethau enwog a'i golygfeydd godidog gyda'r bywyd gwyllt yn ei gwneud yn hafan ddelfrydol i naturiaethwyr.
Mae atyniadau ar gyfer ymwelwyr yn amrywio o amgueddfeydd ac orielau i leoliadau hanesyddol a gweithgareddau awyr agored. Mae cyfeiriadau nifer ohonynt isod ond mae mwy o wybodaeth ar safle .
Cyfeiriadau defnyddiol
Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys M么n, LL77 7TW
01248 750057
Amgueddfa Plentyndod
1, Castle St, Biwmares, Ynys M么n LL58 8AP
01248 810448
Amgueddfa Carchar Biwmares
Bunkers Hill, Biwmares, Ynys M么n LL58 8EP
01248 810921
Amgueddfa Arforol Caergybi
Ffordd y Traeth, Caergybi LL65 1YD
01407 769745
Sw M么r
Brynsiencyn, Ynys M么n, LL61 6TQ
01248 430411
Tacla Taid
Tyddyn Pwrpas, Niwbwrch, Ynys M么n, LL61 6TN
01248 440344
Pili Palas
Ffordd Penmynydd, Porthaethwy, LL59 5RP
01248 712474
Parc Fferm y Foel
Brynsiencyn, Llanfairpwll, LL61 6TQ
01248 430646
Parc Henblas
Bodorgan, Ynys M么n, LL62 5DL
01407 840440
Trac M么n
Swyddfa'r Ystad, Bodorgan, Ynys M么n, LL62 5LP
01407 840253
Oriel M么n
Rhosmeirch, Llangefni, Ynys M么n, LL77 7TQ
01248 724444
Canolfan Ymwelwyr Wylfa
Cemaes, Ynys M么n, LL67 0DH
01407 711400
Canolfan Ucheldre
Caergybi, Ynys M么n, LL65 1TE
01407 763 361
Plas Newydd
Llanfairpwll, Ynys M么n, LL61 6DQ
01248 714795