M么n Mam Cymru Gerallt Gymro roddodd yr enw "M么n Mam Cymru" ar yr ynys. Mae'n ymddangos mai o'r gair Nors, ongull, sy'n golygu ffiord, y daw'r ffurf Saesneg, Anglesey. Ar rai hen arwyddion gwelir ei sillfu yn Anglesea.
Disgrifiodd y Rhufeiniwr, Tacitus, Ynys M么n fel canolfan derwyddaeth gydag 'efrydwyr' ifainc o'r Cyfandir yn dod yma i astudio'r hen gredoau. Pan ymosododd y Rhufeiniaid gyntaf ar yr ynys roedd ymateb yr ynyswyr mor ffyrnig, ni allai'r milwyr Rhufeinig wneud dim gan eu bod mewn cymaint o ofn.
Olion cyn hanes
Mae llawer o olion o'r cyfnod cyn hanes ar Ynys M么n, gan gynnwys Barclodiad y Gawres, hen feddrod sy'n dyddio'n 么l bum mil o flynyddoedd ger Aberffraw ac sy'n cynnwys lluniau wedi eu sgriffinio ar furiai'r brif siambr. Un arall yw Bryn Celli Ddu ger Plas Newydd gyda thwnel hir yn arwain i'r brif siambr.Y ddwy bont
Pont y Borth neu Bont Menai oedd coron gyrfa Thomas Telford, mab i fugail o'r Alban a ddaeth yn un o beirianwyr sifil galluocaf y byd. Cynlluniodd y bont yn 1819 ac am gyfnod maith hon oedd y bont grog hiraf yn y byd.
Agorwyd Pont Borth fis Gorffennaf 1826 ond er cymaint yr edmygedd ohoni ymhlith peirianwyr doedd hi ddim yn plesio pawb. Disgrifiodd arlunydd o'r enw Carl Gustav Carus a oedd yn ffrind i Goethe hi fel "dim amgen na symbol mathemategol mawr" ac yn "Seisnigaidd, sych a phedantig" ei chymeriad.
Gan Albanwr arall, Robert Stephenson, y codwyd yr ail bont dros y Fenai. Pont reilffordd oedd Pont Britannia neu Y Tiwb rhwng y tir mawr a M么n a adeiladwyd rhwng 1846 ac 1850. Llosgwyd hon yn 1970 ac wrth ei hailadeiladu ychwanegwyd l么n uwchben y rheilffordd gyda'r pileri a godwyd gan Stephenson yn ddigon cryf i gynnal y ddwy.
'Ceirch a Methodistiaeth'
"Ceirch a Methodistiaeth" oedd priodoleddau Ynys M么n yn 么l George Borrow pan ymwelodd 芒'r ynys yn 1854.
Copr Mynydd Parys
Ddiwedd y ddeunawfed ganrif Mynydd Parys ger Amlwch oedd y gwaith copr mwyaf yn Ewrop ac mae olion y cloddio a fu yn dal yno heddiw. Am y deng mlynedd yn dechrau 1768 yr oedd mil a hanner yn gweithio yno gan gynnwys merched a oedd yn cael eu galw yn Copr Ladis. Byddai'r cwmni yn bathu ei arian ei hun, Ceiniogau Amlwch.
Tebyg mai llygriad o Mynydd Parry ydi Mynydd Parys ac mae cyfeiriadau at "Parry's Mountain" yn y ddeunawfed ganrif.
Y Marcwis
Collodd Ardalydd - Marcwis - cyntaf M么n ei goes ym Mrwydr Waterloo. Ef oedd yn gofalu am filwyr meirch Wellington a chofgolofn iddo ef sydd y tu allan i Lanfairpwllgwyngyll gyda grisiau i'w thop. Canodd y Bardd Cocos:
Y Marcwis of Anglesey
A'i gledd yn ei law.
Fedar o ddim newid llaw
Pan fydd hi'n bwrw glaw.
Er nad yw'n farddoniaeth fawr, mae'n gwbwl gywir.
Wedi iddo ddychwelyd i Lundain cynlluniwyd coes bren yn arbennig ar ei chyfer a'i phatentio fel Coes Sir F么n. Yr oedd y Marcwis yn 86 pan fu farw yn dad i 18 o blant.
Llanfaripwll ...
Yn Llanfairpwllgwyngyll y sefydlwyd y gangen gyntaf erioed o Sefydliad y Merched - WI.
Llanfairpwll ac yn y blaen yw'r enw lle hiraf yn Ewrop. Mae'r pentref wedi ei efeillio 芒 thref o'r enw Ee yn yr Iseldiroedd!
Y Fenai
Ar un adeg, filiynau o flynyddoedd yn 么l, dyffryn oedd Afon Menai. Ymddangosodd yr ynys gyntaf wedi Oes y Rhew ac wrth i'r rhewlifau ddadmer cododd lefel y m么r 芒 llanwyd y dyffryn 芒 d诺r heli. Brenhinoedd
Mae sawl cysylltiad brenhinol 芒 M么n. Yn ardal y Berffro yr oedd llys hen dywysogion Gwynedd ac ym Mhenmynydd yr oedd cartref y Tuduriaid a rododd i Loegr y brenin Harri'r wythfed a'r frenhines Elizabeth gyntaf.
Yr oedd Owain ap Maredudd ap Tewdwr o Blas Penymydd yn un o'r rhai a ymladdodd ochr yn ochr 芒 Harri'r pumed yn Agincourt ac am ei wrhydri fe'i penodwyd wedyn yn bennaeth y llys brenhinol.
Ar ffenestr lle mae beddrod y Tuduriaid yn Eglwys Penmynydd gwelir y geiriau: Undeb fel rhosyn yw ar lan afonydd ac fel t欧 dur ar ben y mynydd.
 |