|
Pa fath o fwyd ydych chi'n ei gynhyrchu?
Cig eidion o wartheg duon Cymreig.
Sut wnaethoch chi gychwyn?
Mae'r fuches sydd ganddon ni yn mynd yn 么l i 1936, pan ddechreuodd taid fy ng诺r ffermio. Y gobaith ydy bydd y mab yn cario ymlaen ar 么l iddo ddod 'n么l o Rydychen. Mae'n astudio biological science, ond ar 么l y profiad o'r ddinas n么l adra' ddaw o i gefn gwlad ar ddiwedd y dydd.
Mae fy ng诺r Brian a'i dad yn rhedeg y ffermydd a dwi'n gwneud y gwaith gweinyddu ar gyfer Beef Direct Ltd.
Rydym yn un o 'arwyr bwyd' Rick Stein ac yn cael ein henwi yn ei lyfr, Food Heroes of Britain. Mae'n rhestru'r cynhyrchwyr mae o'n eu cysidro sydd 芒 bwyd o safon. 'Da ni ddim yn gwybod sut rydan ni yn y llyfr - 'mond ei fod o'n gyrru ymchwilwyr o gwmpas sy'n prynu cynnyrch yn ddiarwybod i chi ac yn mynd 芒 fo yn 么l i Rick Stein i'w feirniadu.
Pa mor bwysig yw bwyd i chi?
Wrth fynd yn h欧n, mae rhywun yn mynd yn fwy ymwybodol o be 'da chi'n ei fwyta - o lle mae'r cynnyrch yn dod, sut cafodd yr anifail ei fagu, a yw'r llysiau yn organig ayb.
'Da ni'n prynu lot gan farchnadoedd ffermwyr, wrth i ni fynd iddynt i werthu'r cig. Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn Lloegr. Maen nhw'n cael llawer o gefnogaeth yno - mae pobl yno wedi dod yn fwy ymwybodol na'r Cymry o beth maen nhw'n ei fwyta ac o lle mae'r bwyd yn dod. Mi fedrwch chi wneud eich siopa elfennol i gyd yno a dyna lle fydda i'n siopa bob tro.
Lle fyddwch chi'n prynu bwyd yn lleol?
Mae marchnad ffermwyr newydd wedi cychwyn bob pedwerydd dydd Mercher yng ngwarchodfa adar Conwy.
Beth yw eich hoff rys谩it?
Dwi'n hoff iawn o ginio dydd Sul traddodiadol. Dwi'n coginio'r cig - ystlys las darn o gig eidion Cymreig yw'r gorau - mewn ychydig o dd诺r. Dwi'n hoffi'r cig wedi ei goginio'n iawn tra bo'r g诺r yn hoffi ychydig o waed arno. Yna, mi fyddai yn hel y sudd i wneud grefi.
Dwi hefyd yn hoffi gwneud caserol traddodiadol, gyda stewing steak - taflu popeth i mewn i'r sosban - moron, nionod, garlleg.
Lle fyddech chi'n mynd allan am bryd o fwyd?
Y lle agosaf i ni yw Tresgawen, lle mae bistro a bwyty da. 'Da ni hefyd yn mynd i fistro'r Bull ym Miwmares - neu'r bwyty yno ar achlysuron arbennig. Mwy am gwmni Brian a Fiona
 |