|
Mae llawer wedi dangos eu parodrwydd i helpu eisoes, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn.
Ond rydym yn awyddus i gael help ychwanegol gyda sgiliau elfennol mewn sawl maes: er enghraifft - plymars,
trydanwyr, seiri, plastwrs ac unrhyw un all gynnig sgiliau adeiladu cyffredinol.
Hefyd, mae peth gwaith celf a gwnio
angen ei wneud - llenni, gorchuddio cadeiriau ayyb.
Hoffwn felly apelio at bawb sydd gan ychydig o amser ar eu dwylo i gynnig eu gwasanaeth a dod i helpu'n tîm yn yr ymgyrch i ail-agor drysau'r Pengwern cyn gynted a phosib - byddwn yn ddiolchgar dros ben am unrhyw gymorth.
Os oes gennych ddiddordeb, gallwch ymuno a'r criw drwy gysylltu a Mel Goch ap Meirion drwy'r wefan www.pengwerncymunedol.btik.com
 |