91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleoliad maes y gad Pentraeth, ger Llanberdgoch, Sir Fon Maes y gad
Fel aelod o Gymdeithas Maes y Gad Cymru, mae Dr John Davies yn gwneud ei orau i ddychmygu'r olygfa a'r awyrgylch ar fore'r frwydr.

Rydym hefyd wedi ymweld 芒 maes y gad Pentraeth ger mynwent yr eglwys yn Llanbedrgoch, Sir F么n. Ddaru'r frwydr ddigwydd yn 1170, ger hen fferm Maes y Gad, sy'n sefyll ar dir corsiog iawn. Roedd yn ffrae rhwng meibion Owain Gwynedd.

Roedd Owain Gwynedd wedi cael llawer o blant gan sawl gwraig, ac wrth dyfu fyny byddai'r meibion yma yn ymladd ymysg ei gilydd. Ar y un ochr, ym Mhentraeth, roedd Hywel ap Owain Gwynedd, ac ar yr ochr llall ei frodyr, Rhodri a Dafydd. Roedd Dafydd ab Owain Gwynedd eisiau bod yn dywysog ar yr ardal, ac ef ddaru ennill.

Rydym wedi dysgu llawer am y frwydr o'r holl farddoniaeth a gafodd ei gyfansoddi yno. Gallwch ddarllen y penillion yn yr Oxford Book of Welsh Verse, sy'n cynnwys teyrnged i Hywel a phenillion gan Hywel ein hun; roedd tywysogion y bryd yn dipyn o feirdd hefyd. Roedd yn brofiad emosiynol iawn wrth i ni sefyll ar y groesffordd fach ym muarth y fferm, yn darllen geiriau nad oedd neb wedi eu clywed yno ers canrifoedd.

Mae 'na s么n am y frwydr yn digwydd ger nant fach, ac mae yna dal un yn llifo trwy'r tir heddiw. Rydym felly yn gallu gweld pa mor gorsiog oedd y tir ar faes y gad. Ar 么l sbel o ymladd byddai'r tir wedi meddalu a'r milwyr yn disgyn i mewn i'r gors. Nid yw brwydrau yn bethau rhamantus. Rydym wastad yn meddwl am y milwyr, a'u teuluoedd oedd am golli mab, tad neu 诺r. Doedd dim yswiriant cenedlaethol adeg yna; byddai'n rhaid i'r teuluoedd edrych ar 么l eu hunain.

Ac mae'r un peth dal i ddigwydd mewn rhai llefydd yn y byd heddiw. Mae pobl dal i gael eu lladd neu eu hanafu a methu bwydo eu teuluoedd. Dim ond yr arfau sydd wedi newid. Fel sy'n digwydd heddiw gyda post traumatic stress, mae yna farddoniaeth gan Aneurin yn s么n am fynd yn wallgof ar 么l gweld yr holl frwydro, fel shell shock.

Un maes y gad arall yng ngogledd Cymru yw Aberlleiniog, Ynys M么n, lle ddigwyddodd brwydr yr Afon Menai. Mae'r frwydr yma yn un doniol!

Yn tua 1098, roedd y Llychlynnwr, Magnus Barelegs, yn hwylio heibio i benrhyn Ynys Seiriol, ar ochr de-ddwyreiniol Ynys M么n. Gwelodd y Normaniaid yn rhoi amser ofnadwy i'r bobl leol; yn ymddwyn yn dreisgar ac yn lladd eu plant. Anfonodd un o'i ddynion i'r lan i gael esboniad am y trais a phan glywodd bod y Normaniaid yn lladd pobl ddiniwed, penderfynodd ymosod arnynt. Dinistriodd llynges y Normaniaid a'u gyrru o'r ynys. Ond wedyn, gan nad oedd Magnus wedi dod efo llynges go iawn ei hun, roedd o heb gymorth ac yn styc! Felly ar 么l rhoi trwyn gwaedlyd i'r treiswyr, hwyliodd adref.

Gan fod hwn yn antur o safbwynt y Llychlynwyr, mae o wedi nodi mewn dogfennau yn archif Frenhinol Norwy. Ddaru ni felly sefyll ar y traeth a darllen o'r ysgrifau yma, a daeth y frwydr yn fyw i ni gyd.

Mwy am feysydd y gad yr ardal.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy