91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Murol o faes y gad Moel y Don Maes y gad
Mae sawl brwydr waedlyd wedi bod ar dirwedd Sir F么n. Fel aelod o Gymdeithas Maes y Gad Cymru, mae Dr John Davies yn gwneud ei orau i ddychmygu'r olygfa a'r awyrgylch ar fore'r frwydr.

Rydym ni fel cymdeithas yn ymweld 芒 meysydd y gad yng Nghymru i drafod y tachtegau milwrol tu 么l i'r brwydrau. Ond rydym hefyd yn cofio'r bobl a gymerodd ran yn y brwydrau; yn darllen penillion ac adroddiadau o'r ymladd yn y man a'r lle, i gofio sut oeddent yn teimlo ar y pryd. Mae haneswyr yn dueddol o aros wrth eu desgiau, yn darllen am ddigwyddiad mewn llyfr, ond rydym ni yn hoffi mynd allan i gael profiad o'r lleoliad, y tirwedd a'r awyrgylch.

Dwi'n ddaearegwr ac eisio gweld a theimlo tirwedd maes y gad. Mae rhai eraill o'n haelodau ni yn gyn-filwyr hefyd, ac yn gallu dehongli'r brwydrau o safbwynt milwrol.

Ddaru ni fynd draw i Foel y Don ar ochr Sir F么n o'r Fenai; yn y fan lle ymosododd milwyr Edward 1af ar y Cymry yn y 13fed ganrif. Os safwch ar y cei yn Felinheli ac edrych dros y d诺r, gwelwch benrhyn bach gyda bwthyn arno, i'r gogledd o'r pontydd mawr. Rydym yn tybio mai dyma lle ddaru'r milwyr Normanaidd adeiladu bont i gyrraedd yr ynys. Mi fuasai'r bont yma wedi ei wneud allan o resi o gychod, gyda'r milwyr yn gallu camu o un i'r llall i groesi'r d诺r.

Roedd Edward 1af wedi bod yn cynllunio pont o gychod ers Mai 1282. Mae yna dystiolaeth iddo alw nifer fawr o adeiladwyr cychod o dde Lloegr i Gaer i roi'r bont at ei gilydd, ac yna ei hwylio o amgylch yr arfordir.

Roedd y bont yn barod i'w ddefnyddio ym mis Medi. Tybiodd Edward 1af y byddai wedi ennill y tir draw o Ddinbych i'r Afon Conwy erbyn hynny, a meiddianu tir tywysogion Gwynedd. Roedd am i un rhan o'i fyddin ymosod o'r dwyrain, a choncwerwyr Sir F么n ymosod o'r gorllewin, gan dal Llewelyn yn ei Lys yn Abergwyngregyn a'i guro.

Ond roedd o yn parhau i ymladd yn Sir Ddinbych tan yr Hydref. Ddaru cadfridog y fyddin yn Felinheli dechrau poeni am y gaeaf; roedd y tywydd yn gwaethygu, a'r bont o gychod yn dechrau dirywio yn y d诺r hallt, ac erbyn 6 Tachwedd, penderfynodd nad oedd o'n gallu aros am fyddin Edward 1af mwyach.

Gan ddefnyddio google earth ac astudio amseroedd y llanw a chodiad yr haul, rydym yn tybio eu bod wedi croesi'r bont tua 7.15 y bore. Nid oedd gweld y milwyr yn croesi'r bont, oedd wedi bod yna am rhai wythnosau, yn syrpreis fawr i'r Cymry wrth gwrs. Ddaru'r Saeson geisio creu cyffro wrth groesi yn y tywyllwch, ond rydym yn sicr bod y Cymry yn aros i hyn ddigwydd. Eu tachteg orau oedd gadael i rai o'r Saeson lanio, tra bo rhai dal wrthi'n croesi'r bont, cyn ymosod. Mae yna ddisgrifiad o'r frwydr mewn llythyr adref gan un o'r milwyr Saesneg. Mae o'n s么n am weld niferoedd mawr o'r Cymry i fyny ar y bryniau a'u bod wedi poeni, a dechrau ceisio mynd yn 么l dros y bont.

Ond byddai'r Cymry yn ymwybodol bod y llanw yn newid; yr unig ddewis i filwyr Lloegr oedd neidio i mewn i'r d诺r neu symud ymlaen i ymladd y Cymry.

Roedd yn chwalfa fawr o safbwynt y Saeson. Ddaru nhw golli lot fawr o'i milwyr, gan gynnwys llawer o'r swyddogion. Mae hanes yn tueddu i liwio'r Cymry fel dynion gwyllt o'r mynyddoedd, ond roeddent wir yn filwyr profiadol ac yn ymwybodol iawn o bethau fel tachtegau ac arfau.

Mwy o feysydd y gad ein hardal.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy