91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Celfyddydau
Brwshis paent
Moses Griffith

Ganwyd: 25 Mawrth 1747. m. 11 Tachwedd 1819

Magwyd: Bryncroes, Pen Ll欧n

Addysg: Ysgol Rad Botwnnog


Arlunydd dyfrliw ac ysgythrwr a weithiai i'r naturiaethwr arloesol Thomas Pennant.

Ganwyd Moses Griffith yn Nhrygarn ym mhlwyf Bryncroes ym mhen draw Ll欧n yn fab i Anne Griffith a Griffith William, labrwr wrth ei alwedigaeth. Cafodd ei fedyddio ym Motwnnog a chael rhywfaint o addysg yno, yn yr ysgol rad oedd yn cael ei rhedeg gan yr Eglwys.

Cafodd ei gyflogi fel gwas gan y naturiaethwr Thomas Pennant, sgweiar Downing yn Sir y Fflint, yn 1769 pan oedd yn 22 oed, o bosib oherwydd ei allu fel arlunydd, a threfnodd Pennant iddo deithio'r wlad gydag ef er mwyn creu darluniau ar gyfer ei wahanol lyfrau.

Cafodd gartref yn Gwibnant, un o dai'r st芒d, a bu'n byw yno gyda'i wraig Margaret Jones, a briododd yn 1781, a'u dau blentyn, Moses a Margaret.

Roedd Griffith yn gweithio fel cydymaith a chofnodwr gweledol i Thomas Pennant ar ei deithiau gwyddonol a naturiaethol. Yn ei hunangofiant, The Literary Life, mae Pennant yn cyfeirio ato fel arlunydd ac ysgythrwr medrus ac yn dweud bod ganddo gryn allu fel cerddor hefyd. Aeth gyda Pennant ar ei holl deithiau o 1769 hyd 1790, a defnyddiwyd ei ysgythriadau i ddarlunio amryw o lyfrau ei feistr, yn enwedig yn y cyfrolau'n disgrifio'u teithiau yng Nghymru ac yn yr Alban.

Mae llawer mwy o'i ddarluniau dyfrliw gwreiddiol ar gael, yn enwedig darluniau o eglwysi a phlastai a golygfeydd eraill yng Nghymru a Lloegr, a defnyddiwyd nifer ohonynt i addurno cop茂au argraffedig o waith Pennant gan gynnwys Tour in Wales, 1778, ac A Journey to Snowdon yn 1781. Drwy'r cyhoeddiadau yma daeth Griffith yn adnabyddus i'r cyhoedd ac, oherwydd brwdfrydedd ei feistr, daeth pobl i wybod am ei weithiau dyfrliw.

Moses Griffith hefyd oedd yn gyfrifol am lawer o'r darluniau o anifeiliaid, adar a physgod sydd yn llyfrau Pennant ar hanes natur, ac mae'n amlwg hefyd, o gyfres o f芒n-ddarluniau o'i waith sydd ar gael, fod ganddo allu fel paentiwr portreadau.

Aeth Griffith ar ei daith gyntaf gyda Pennant yn ystod ei flwyddyn gyntaf dan ei gyflogaeth pan aethant i'r Alban gan gwblhau'r daith yn 1772 gydag ymweliad ag Ynysoedd Heledd. Ffrwyth y daith hon oedd A Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides yn 1774.

Byddai Griffith yn gweithio i bobl eraill hefyd ond dim ond drwy ganiat芒d ei feistr, a oedd yn aml yn gweithredu fel asiant iddo, e.e. pan gyfrannodd ddarluniau i The Antiquities of England and Wales gan Francis Grose (1772-87).

Weithiau roedd Griffith yn ysgythru ei ddyfrliwiau ar gopr ei hun, ond byddai ysgythrwyr eraill yn cael eu defnyddio i ddehongli ei waith hefyd.

Bu farw Thomas Pennant yn 1798 ond roedd wedi gwneud yn si诺r fod Moses Griffith yn parhau i fod yn rhan o'r teulu yn ei ewyllus a bu'r arlunydd yn byw yn Gwibnant ac yn gweithio i'w fab, David Pennant, hyd ei farwolaeth.

Ymysg gweithiau mwyaf nodedig Griffith mae argraffiadau o Tour in Wales a gyhoeddwyd ar bapur mawr gyda phaentiadau gwreiddiol. Cyhoeddwyd y cop茂au ar gyfer noddwyr gan gynnwys Syr Watkin Williams Wynn, Syr William Burrell a William Storer - yn ei gopi ef yng ngholeg Eton mae'r wybodaeth yma wedi ei chofnodi.

Mae copi Pennant ei hun, sy'n cynnwys mwy fyth o ddarluniau, yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Yno hefyd mae copi llawn darluniau o The History of the Parishes of Whiteford and Holywell (1796) gan Pennant, sy'n cynnwys golygfeydd diwydiannol nodedig, law yn llaw 芒 lluniau mwy cyffredin o dirluniau a phortreadau.

Mae dau hunan bortread wedi goroesi o Moses Griffith - un ohono yn 诺r ifanc, chwithig-yr-olwg, a'r llall mewn gwth o oedran. Bu farw ar 11 Tachwedd 1819 yng Ngwibnant a chafodd ei gladdu ym mynwent Chwitffordd.

Ym 1990, aeth Gr诺p Pennant (Cymdeithas Thomas Pennant bellach) ati i adnewyddu bedd Moses Griffith a dadorchuddiwyd y feddfaen a chofeb iddo yn y fynwent.

Ar y cyd 芒 Chyfeillion Ll欧n mae'r gymdeithas hefyd wedi codi cofeb lechen i'r arlunydd ar wal ei hen gartref yn Nhrygarn, Ll欧n, hefyd.

Daeth rhan helaeth o'r wybodaeth ar y dudalen hon o'r Oxford Dictionary of National Biography a Bywgraffiadur y Llyfrgell Genedlaethol ar-lein.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy