91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cofeb i Moses Griffith ar wal ei hen gartref Moses Griffith: 'Fy Nhrysor'
Y oedd yn arferol gan dri ohonom, Paul Brighton, Dr Paul Evans a minnau gerdded llwybrau cyhoeddus plwyf Chwitffordd, Sir Fflint yn niwedd 80au'r ganrif o'r blaen.
Cynlluniem daith gogyfer 芒 phob 'gwyliau ysgol' i ddim mwy o bwrpas na ymgynefino ac ardal Thomas Pennant . . . onid oedd Paul Evans wedi gwneud ei ddoethuriaeth ar sawl agwedd o berson y polimath hwn (1726-1798) o'r Downing? Dysgasom lawer.

Un diwrnod arbennig, benthyciwyd allweddau eglwys y plwyf i ni, i droi i mewn ac edrych ar y cerflun-gofeb sydd yno wrth yr organ wedi ei godi gan fab Thomas Pennant - David - er parchus goffadwriaeth am ei dad.

Digwyddais s么n wrth yr hogia' fy mod flynyddoedd ynghynt wedi tynnu llun o feddrod arlunydd y g诺r enwog oedd bellach wedi ei symud yn ei grynswth i glawdd terfyn gogleddol y fynwent. Wedi cloi'r eglwys, gwnaethom ein llwybr ar draws y lawnt-fynwent i'r llecyn.

'Hed amser meddwn - na Erys amser dyn a.'

Dyna feddyliais wedi cyrraedd y fan ac edrych mewn dychryn ar y beddfaen a'r ysgrifen! Yn fy nhryloywder i, wrth ei daflu ar y sgr卯n, gellir darllen holl fanylion byw a marw'r arlunydd hwn o L欧n! Pan edrychom arno, nid yn unig y cen cerrig a'r mwsogl oedd wedi bod wrthi yn erydu - ond elfennau amser a hin!

Penderfynasom fynd i weld y person i edrych beth allem, garedigion coffadwriaeth y ddau deithiwr, wneud i achub y safle.

Cawsom ribidir锚s o resymau pam na fedrai'r eglwys wneud dim oherwydd y gofynion trwm sydd arni(ynt) felly gofynasom am hawl a bendith i wneud rhywbeth ein hunain! Wedi rhoi'r peth gerbron cyngor yr eglwys a rhoi sicrwydd na fyddem yn pwyso arnynt o gwbl, cawsom ganiat芒d i 'wneud rhywbeth'. Gallaf ddweud yn awr heb os nac oni bai, mai dyma gychwyn 'Y Gr诺p Pennant' fel y galwem ein hunain y pryd hynny - ond erbyn hyn sydd wedi cael hunan ddyrchafiad i fod yn 'Cymdeithas Thomas Pennant' efo'n cyfansoddiad, bwriadau a'n prosiectau i hyrwyddo cof amdano yn y fro a'r genedl.

Paul Brighton a Normal Closs Parry o flaen pabell Cymdeithas Thomas Pennant yn yr Eisteddfod Yn nhrafodion y gr诺p (cymdeithas) mae cofnodion a hen filiau am y gost wynebwyd y dyddiau hynny - a chymhorthdal gan y cynghorau hefyd). Cawsom wasanaeth arbennig i ddadorchuddio'r beddfaen a'r gofeb yn y mur ac ar y nos Sul arbennig honno 17 Hydref, 1990 roedd Cymanfa Ganu ddwyieithog yn yr eglwys a neb llai na'r diweddar annwyl Athro Bedwyr Lewis Jones yn annerch!

Atgoffwyd fi o hyn ychydig yn 么l pan oeddwn yn y 'stac' yn Llyfrgell y Brifysgol ym Mangor ac yn byseddu 么l rifynnau Y Faner. Yn rhifyn Tachwedd 2il, 1990 gwelais

'Moses Griffith 1742-1819'

Fersiwn Gymraeg o anerchiad dwyieithog a draddodwyd mewn Cymanfa Ganu yn Eglwys Chwitffordd ar achlysur ailgysegru bedd Moses Griffith, 17 Hydref gan Bedwyr Lewis Jones.

O hynny hyd yn awr, mae gennyf ddiddordeb personol yn yr artist 'cyntefig' (primitive) hwn o L欧n. Mae sawl un wedi ymchwilio i fywyd a gwaith 'Pennant' - ond mae lle i ofyn pa le y buasai Pennant heb ei was ffyddlon? Yn wir - y mae'r glew bolimath yn cyfaddef ei ddyled iddo. Yn ei gyfrol 'Literary Life' cyfeira ato fel 'Fy Nhrysor'! Gan dynnu ar anerchiad Bedwyr a ffynhonnell neu ddwy arall, hoffwn ymhelaethu i danlinellu pwysigrwydd y gwas i'r meistr!

Dyma dri ohonynt i gychwyn . . .

'Hogyn o L欧n oedd Moses Griffith. Yno yn ardal Bryncroes ym mhen pella gwlad Ll欧n y'i ganwyd o yn 1747. Hogyn cyffredin oedd o, mab i forwyn a gwas ffarm. Mi gafodd beth addysg yn Ysgol Botwnnog. Mi ddangosodd fod ganddo dalent i dynnu llun. Ond doedd medr i dynnu llun fawr o fudd i chi ym Mhen Ll欧n ddau gant a hanner o flynyddoedd yn 么l; doedd yna ddim cyfle nac anogaeth i feithrin dawn felly, ac eithrio, efallai, i baentio arwydd t欧 tafarn neu ben blaen llong . . . Yn ddwy ar hugain oed, cyflogwyd Moses Griffith i Pennant ac fe'i cyflogwyd yn was ganddo. Yn ogystal 芒 darn llithrig o ysgrifennu cyhyrog Bedwyr - mae'r darn yn gofyn cwestiwn, gwaelodol! Sut y cafodd Pennant afael ar Moses? Hyd y gwelaf i - er fod yna dipyn o ymchwil a sgwennu wedi bod ar y polimath o Chwitffordd, nid wyf wedi gweld unrhyw gyfeiriad hanesyddol, pendant yn egluro sut! Gofynnaf innau - a welodd Pennant fwy ynddo na ffynhonnell gwas cyflog i fynd a dwad, troi a thrin a chodi beichiau? A gafodd gip yn rhywle, gan rywun 卢cydnabod uchelael efallai - o waith y bachgen cyffredin? Mae maes ymchwil yma yn sicr.

Yna dyma frawddeg ddiddorol eto 'Gadawodd [Moses Griffith] ar ei 么l ddwy fil a rhagor o luniau. Gwnaed ysgythriadau o rai ohonynt a'u hatgynhyrchu yn llyfrau Pennant - yn ei Deithlyfr trwy Gymru, yn ei lyfr ar hanes plwyfi Chwitffordd a Threffynnon'.

Dwy fil o luniau! Bobol bach . . . ac yn awr, maent i gyd dan glo ym mherfeddion ein Llyfrgell Genedlaethol. Ond mae mwy rhwng llinellau'r frawddeg. Mae hanes oes o gyd deithio - ac nid yma yn Sir Fflint ond Cymru, Ynys Manaw, Yr Alban ac Ynysoedd yr Heledd . . . mae yma'r syniad o gydfyw, o gydsymud a'r naill yn elwa ar y llall. Heblaw Person Caerwys, y Parch John. Lloyd - gan bwy oedd yr allwedd ieithyddol mewn pentref a thref a thafarn yng Nghymru? Moses! Cofiaf yn Ynys Skye - Yr Heledd, fynd o gwmpas bragdy wisgi - yn eu harddangosfa - credwch neu beidio roedd llun o Pennant a chyfeiriad at ei Was o Drysor oeddynt wedi bod yn croniclo a recordio bywyd lled gyntefig yno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg! Tra ar daith - ni allai godi'r un pwn o flawd na golchi'r ceffylau! Mae Bedwyr yn gorffen ei draethawd fel hyn.. .

'Atgynhyrchwyd llawer mwy [lluniau] mewn nifer bach o gop茂au arbennig iawn - cop茂au grangerized o'r Teithlyfr trwy Gymru. Mae un set bedair cyfrol o'r rhain yn Llyfrgell Coleg Bangor, ac yn hyfryd o beth 卢testun y llyfr wedi ei osod ar ganol dalen fawr wen, ac yna ar waelod y ddalen neu ar y dudalen wag ar y chwith atgynhyrchir dau o luniau Moses Griffith wedi eu lliwio a llaw: llun o Enlli o Uwchmynydd a ffermwyr wrthi yn y gwair, llun o Bont Llanrwst, a lluniau bach, bach o dai yn y rhan hon o Glwyd [Sir Fflint r诺an] y mae'n bleser edrych arnyn nhw. Mae'r cyfrolau'n drysor amhrisiadwy.

Llygaid clir Moses Griffith, ei fedr fel crefftwr, hynny sy'n eu gwneud yn drysor . . . '

Er ffurfio Cymdeithas Thomas Pennant - mae wedi bod yn amhosibl, yng ngweithgareddau'r Gymdeithas, ddatgysylltu'r meistr a'r gwas. Erbyn hyn, mae gennym ddarlith flynyddol - 'Darlith Pennant' - ac ymysg y deg darlith sydd wedi bod, mae tair wedi bod yngl欧n 芒 gwaith arlunwyr yn cofnodi cronicladau Thomas Pennant - gydag arbenigwyr fel cyn geidwad darluniau a mapiau y Llyfrgell, Donald Moore, yna ar ei 么l ef - Dr Paul Joyner yn anerch! Yr oeddynt ill dau yn hyddysg 芒'r pwnc - ac yn gallu cymharu gwaith a thechneg Moses efo arlunwyr eraill megis John Sandby ac Ingleby a ddefnyddiwyd gan Pennant. Ni roddodd neb ef yn 'nefoedd' yr anfarwolion - megis Turner a Wilson - ond roedd ac mae pawb yn gyt没n fod ei gyfraniad i'n gwybodaeth am dir a daear a byd natur, a Chymru yn enwedig wedi bod yn enfawr.

Beth am ryw 'ragymadrodd' i'w fywyd a'i waith? Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979 gwnaeth Cyngor y Celfyddydau ddau beth: Arddangosfa Deithiol a drefnwyd mewn cysylltiad a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ei selio ar ei fywyd a'i waith. Cyhoeddwyd cyfrol ddwyieithog yn sg卯l hyn.

'Moses Griffith 1747-1819 Arlunydd a Darlunydd yng Ngwasanaeth Thomas Pennant'

Mae hwn yn drysor o lyfryn - ac fel aur - allan o brint ers amsetr ond mae'mn ymdriniaeth safonol - eto gan Donald Moore Ceidwad Printiau, Darluniau a Mapiau (bryd hynny) Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu farw Moses yng Ngwibnant ym 1819 yn 72 mlwydd oed.

Un o'm trysorau personol erbyn hyn yw'r sleid a dynnais o'i feddrod ac arno yn blaen:

IN MEMORY OF MOSES GRIFFITH - an ingenious and self-taught arist, who accompanied Thomas Pennant, the Historian on his Tours, whose works he illustrated by his faithful pencil. Died November 11th, 1819, aged 72.

Yr oedd y meistr yn trysori'r gwas cymaint i'r graddau fel - yn ei ewyllys ef yn 1798 rhoes orchymyn i'w fab 卢etifedd David fod Moses i gael byw yn ei gartref, ar y st芒d - yn rhad ac am ddim, weddill ei oes! Fel troed nodyn i'r traethawd hwn, hoffwn ddweud fod y stori yn mynd yn ei blaen. Bu'r Gr诺p Pennant - a Chyfeillion Ll欧n yn cydweithio a pherchnogion 'Trygarn' hen gartre Moses, i roddi cofeb lechen ar y wal, er gogoniant i'w enw a'i gyfraniad!

Rhof ynoch y meddwl hwn . . . Wrth syllu ar hunan bortread ohono yn hir a manwl . . . nid gwas cyffredin dwylo creithiog - gwisg ffwr a hi fuasai yn gwisgo y mwffler drud, y wasgod a'r got uchelaidd, a heb flewyn o dan ei drwyn nac o gwmpas ei 锚n! Na nid gwas cyffredin y trysor hwn!

Norman Closs Parry

Gyda diolch i Llafar Gwlad am ganiat芒d i atgynhyrchu'r erthygl hon. Ymddangosodd yn rhifyn Haf 2007 y cylchgrawn.



Cyfrannwch

Nerys, Llanfairfechan
Braf odd gweld for gwybodaeth ar Moses Griffith ar y we; mi welais un o'i luniau yn Yr Erddig, sef llun o Goed Coch Abergele.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy