91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Mwynhau un o'r ymweliadau Pererinion
Mai 2010
Ar 么l llwyddiant y teithiau i Lundain, mentrodd Elfyn Thomas ar 么l nifer o sesiynau trafod i drefnu Taith i Lerpwl a'r cyffiniau ym mis Mawrth 2010.

Hoffai ddiolch am y cyfan a gymerodd le am bedwar diwrnod. Methodd a bod ym mhlith y pererinion ar Ddydd Iau, 18 Mawrth gan ei fod yn Llundain, ond croesawyd hwy bore Iau gan y Parch Ddr. D. Ben Rees, y tu llan i Ganolfan yr Arglwyddes Lever yn Port Sunlight.

Treuliwyd dwy awr yn yr adeilad hardd sy'n llawn o drysorau, ac yn eu plith, y darlun o Salem, gan yr arlunydd Curnow Vosper.

Oddi yno fe'n harweiniwyd i Benbedw i gapel Seion, Laid Street, lle y cyflwynodd Dr. D. B. Rees ddarlith gynhwysfawr ar Gymry Penbedw a Wallasey.

Trefnwyd te yn yr Ysgoldy gan Mrs Marged Jones, Mrs Morfudd Williams, Mrs Mair Rees Jones a Mrs Olwen Jones a phob un o'r criw wedi mwynhau'r pnawn.

Gadawyd i weld olion Eisteddfod 1917 ym mharc enwog Birkenhead cyn cyrraedd Gwesty'r Atlantic (ein cartref yn y ddinas) am 4.30.

Yna am 7 o'r gloch cawsom gwmni Dr Rees yn yr Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd a'n tywys i weld Trysorau Cymry sydd yno - ffenestr liw i Dewi Sant a'i fam Non a chofeb i gofio Syr Robert Jones.

Paratowyd cinio blasus inni yn y Western Rooms a chawsom ein diddanu ar y delyn gan Dylan Cernyw o ddyffryn Conwy.

Roedd hi yn hanner awr wedi deg arnom yn 么l yn y gwesty braf wedi cae1 diwrnod cofiadwy.

Braf oedd cael cwmni Elfyn Thomas o Gwmni Seren Arian i frecwast ar fore Gwener a ninnau ar ein ffordd i'r Royal Medical Institute yn Mount Pleasant erbyn 9.15 am Sesiwn ar Lerpwl.

Yno cawsom fore cyfan, tri cyflwyniad o'r safon uchaf. Yn gyntaf, y Prchg. Dr D Ben Rees ar Lerpwl yn Grefyddol a Diwylliannol gyda chyfraniad y Cymry, hwn trwy'r 'power point'; yn ail Dr. Frank Carlisle, hanesydd lleol, ar deulu Esgob Francis James Chavasse (1900卢 1923), yn arbennig y ddau fab a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf a hynny yn ddramatig a heb nodyn.

Dilynwyd y ddau hanesydd gan y llawfeddyg orthopaedig, Dr Robert Owen, Hen Golwyn ar Lerpwl a Gogledd Cymru, trwy sleidiau.

Daeth y stori yn fyw eto a gwelwyd ar y sgrin adeiladwyr fel Owen Elias, David Hughes a John Hughes, M么neivion.

Cawsom ginio blasus, ac yna taith o dan ofal Dr Rees i Pall Mall, Vauxhall, Aintree, Everton ac yn 么l i Abercromby, pryd y cymerodd drosodd gan Dr Frank Carlisle gan ein harwain i'r Amgueddfa Forwrol a chae1 cinio yn yr Adelphi a sgwrs ganddo am y llong Titanic a'i hanes trist.

Bore Sadwrn braf oedd cael ymuno yng Ng诺yl Pedrog yn Neuadd y Ddinas a gwerthfawrogid yn fawr pob un o'r cyfraniadau.

O Neuadd y Ddinas cawsom ein tywys o amgy1ch yr Eglwys Gadeiriol Babyddol gan Dr Ben Rees, ac oddi yno yn y bws gyda'r gyrrwr o Benygroes, Dyfryn Nantlle, Ernest Green, yn ofalus ohonom ar y daith trwy Toxteth, St. Michael in the Hamlet, Aigburth, Garston (a gweld sgerbwd Ysbyty Newydd Syr Alfred Lewis Jones), i Allerton ac aros ym mynwent Toxteth i weld bedd teulu Hugh Owen Thomas, tad meddygaeth orthopaedig.

Yn y nos cawsom wefr C么r y Brythoniaid a bore Sul, yn yr un lleoliad capel hardd Bethel, oedfa eneiniedig.

Ar 么l yr oedfa cawsom groeso tywysogaidd yn Ysbyty y Galon a'r Frest, Broadgreen.

Canwyd nifer o ganeuon, i'n diddori, gan G么r Meibion Aughton (a braf oedd canfod tri o Gymry Cymraeg yn y c么r) ac yna cawsom luniaeth wedi ei baratoi gan gyfeillion yr ysbyty a Th欧 Robert Owen (Robert Owen House).

Croesawyd ni gan Mr Fabri, arbenigwr ar y galon, a siaradwyd gan yr Athro Robert Owen, Elfyn Thomas a Dr. Ben Rees.

Cyflwynodd ef momento o Lerpwl i bob un o'r gr诺p.

Soniodd Elfyn Thomas fod Cwmni Seren Arian yn trosglwyddo y swm o 拢750 i gefnogi T欧 Robert Owen, lle mae teuluoedd yn cae1 aros tra y mae eu hanwyliaid yn derbyn triniaeth, yn arbennig y rhai a ddaw o Ogledd Cymru, Ynys Manaw a Cwmbria.

Ffarweliwyd a'n prif dywysydd ger maes parcio ei gapel Bethel, ers 1968 am 3.15 pnawn Sul, ar 么l taith fythgofiadwy a phleserus.

Bwriada Seren Arian ystyried pererindod eto yn y dyfodol.

Bleddyn lames


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy