|
Mae Luis yn gweithio fel rheolwr y fferm ieir ac mae Daniela yn athrawes yn Y sgol Howells, Dinbych.
Daw Luis, sy'n siarad Sbaeneg fel iaith gyntaf, yn wreiddiol o Fecsico ac Eidales yw Daniela.
Dim ond pedair oed oedd Lodovica pan ddechreuodd hi yn Y sgol Pant Pastynog yn Chwefror 2004 ac roedd hi eisoes yn rhugl mewn tair iaith, sef Eidaleg, Sbaeneg a Saesneg.
O fewn cyfnod byr i gyrraedd yn Y sgol Pant Pastynog, roedd hi hefyd yn hollol rugl ei Chymraeg.
Dyma brawf perffaith fod meddu ar ddwy iaith yn ei gwneud hi'n haws dysgu'r drydedd... a'r bedwaredd!
Dyma gyfieithiad o ymateb Daniela i'r holiadur.
1.Pam y gwnaethoch chi benderfynu rhoi'r Gymraeg i'ch plentyn?
Gan ein bod yn byw yng Nghymru, roedd yn ymddangos y peth amlwg i'w wneud fel y gall 0 leiaf un aelod
o'r teulu siarad yr iaith yn rhug1. Mae Luis hefyd yn cael gwersi Cymraeg.
2.Beth sy'n rhoi'r pleser mwya i chi?
Y ffaith fod Lodovica erbyn hyn yn rhugl yn y Gymraeg.
3.A oes gyda chi gyngor i deuluoedd eraill mewn sefyllfa debyg?
Cadwch at yr holl ieithoedd rydych yn eu siarad o fewn y teulu a'u defnyddio yn y cartref.
 |