91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Defaid Yr Ardd Fotaneg yn croesawu aelodau newydd
Pasg 2009
Mae'r Ardd Fotaneg yn Llanarthne wedi croesawu wyn cynta'r gwanwyn, gyda defaid Llanwenog yn rhoi genedigaeth.

Mae Gardd Fotaneg Cymru yn Llanarthne wedi croesawu aelodau newydd i'w teulu, gyda'r defaid Llanwenog yn rhoi genedigaeth yn barod at y Pasg.

Mae'r dyfodiaid newydd ar Warchodfa Natur Waun Las yn rhan o bartneriaeth rhwng yr Ardd Fotaneg a Choleg Sir G芒r i brynu da byw i ofalu am erwau o laswellt, ac i gynnig adnoddau dysgu i'r Coleg drwy gynnal ymchwil ar gynefinoedd.

Mae'r defaid Llanwenog yn cael eu bridio'n agos iawn i safle'r Ardd Fotaneg, ac maen nhw'n brin iawn. Mae gan y safle yn Llanarthne 70 o'r brid hwn.

Mae ansicrwydd ynghylch dyfodol y brid hwn o ddefaid, ac mae'r Ardd felly'n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn gam ymlaen at eu diogelu drwy gynnig amodau addas iddyn nhw'n agos at eu man geni.

Mae gan frid Llanwenog gotiau trwchus i'w diogelu nhw rhag y glaw (defnyddiol iawn yn y rhan yma o Gymru!), traed duon sy'n gallu gwrthsefyll pydru, a system dreulio sy'n gallu ymdopi 芒'r diffyg mwynau yn y pridd sy'n gyffredin iawn yn yr ardal hon.

Mantais arall sydd i fridio defaid Llanwenog yw eu bod nhw'n gyfeillgar ac yn eithaf bach. Mae gan y brid ganran da o ran bridio hefyd, fydd o gymorth i sicrhau eu dyfodol ar y safle.

Un peth anghyffredin am frid Llanwenog yw eu bod nhw'n adnabyddus am ofalu am ddefaid o fridiau eraill. Yn y gorffennol, mae defaid Llanwenog wedi gofalu am ddefaid Llyn - sydd yn dipyn o beth i'w weld, mae'n debyg!

Mae gwartheg duon ar safle'r Ardd Fotaneg hefyd, ac mae disgwyl iddyn nhw ddechrau bridio yn yr wythnosau nesaf. Maen nhw'n gobeithio cael 12 llo eleni.

Am fanylion o'r hyn sy'n digwydd yn yr Ardd Fotaneg eleni, ewch i'r wefan: www.gardenofwales.org.uk



Lluniau
Tywydd
Trefi


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy