91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abertawe
5 Cwmdonkin Drive Plant ysgol yng nghartref Dylan Thomas
Mehefin 2009
Mae'r awdur o Fietnam, Nam Le wedi bod yn Abertawe i drafod ei waith a chynnal gweithdai 芒 phlant o ysgol Terrace Road.

Mae plant ysgol o Abertawe wedi cael cyfle arbennig iawn i ymweld 芒 chartref Dylan Thomas yn 5, Cwmdonkin Drive, fel rhan o ddiwrnod i ddathlu cyfraniad y bardd i'w ddinas enedigol. Aeth plant o ysgol Terrace Road yn ardal Bryn Siriol y ddinas i'r ty yn yr Uplands i ddysgu mwy am y bardd ac i glywed yr awdur ifanc o Fietnam, Nam Le yn trafod gwaith y bardd a'i waith ei hun.

Nam Le oedd ennillydd Gwobr Dylan Thomas yn 2008 am ei gyfrol o straeon byrion, 'The Boat'. Roedd y gystadleuaeth yn agored yn fyd-eang i unrhyw un dan 30 oed. O blith chwedeg o gystadleuwyr, cyrhaeddodd Nam y rhestr fer o ugain, a mynd ymlaen i gipio'r wobr o 拢60,000. Cafodd Nam ei eni yn Fietnam, a'i fagu yn Awstralia. Bellach, mae e wedi ymgartrefu yn yr Unol Daleithiau.

Cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu yn ystafell orau'r t欧, fyddai'n cael ei chadw ar gyfer achlysuron arbennig yn yr hen ddyddiau. Yn yr ystafell hon, dysgodd y plant fwy am dad Dylan, DJ Thomas, oedd yn hoff iawn o groesawu gwesteion i'r cartref. Er hyn, dysgodd y plant fod DJ yn wrth-gymdeithasol mewn gwirionedd, a bod ganddo biano yn ei swyddfa, yn hytrach nag yn yr ystafell orau, oedd yn anarferol iawn yn y cyfnod. Roedd DJ yn medru'r Gymraeg, ond ni chafodd yr iaith ei throsglwyddo i'w blant oherwydd ei bod hi'n gyfnod tranc yr iaith.

Wrth grwydro o amgylch y t欧, roedd yr holl ystafelloedd wedi cael eu cadw fel y bydden nhw wedi bod yng nghyfnod plentyndod Dylan, a'r holl ddodrefn yn gweddu i'r cyfnod.

At bwrpas croesawu ymwelwyr i'r t欧, mae bob dydd yn cynrychioli diwrnod gwahanol ym mywyd y bardd. Ar ddiwrnod ymweliad y plant, Hydref 27, 1914 oedd y dyddiad, sef dyddiad geni Dylan Thomas. Roedd papurau newydd o'r diwrnod hwnnw ar fwrdd y gegin er mwyn i'r plant gael darllen am ddigwyddiadau'r dydd. Er mwyn ychwanegu at wreiddioldeb y t欧, doedd dim trydan, oni bai am oleuadau, ym mhob ystafell. Cafodd y plant gyfle hefyd i wneud cwpanaid o de gan ddefnyddio hen degell traddodiadol.

Wrth wrando ar Nam Le yn darllen ei waith, gwelodd y plant deipiadur hen ffasiwn ar waith yn swyddfa DJ Thomas, a chael cyfle i dynnu eu llun gyda'r awdur, cyn mynd ar daith o amgylch y t欧 a Pharc Cwmdonkin, lle'r oedd y bardd, mae'n debyg, yn cael ei ysbrydoli ar gyfer nifer fawr o'i weithiau enwocaf, gan gynnwys 'A Child's Christmas in Wales'.

Mae rhagor o weithgareddau wedi cael eu trefnu ar gyfer gweddill y flwyddyn, ac fe fydd cyfle i blant fod yn rhan o brosiect i greu murlun yn dathlu bywyd Dylan Thomas.

Cafodd les y t欧 ei brynu rhai blynyddoedd yn 么l gan Geoff ac Annie Haden yn y gobaith o'i adfywio a'i agor i'r cyhoedd. Mae modd aros yn y t欧 am gyfnodau, lle mae ymwelwyr yn cael gweld yr un fath o bethau a welodd disgyblion ysgol Terrace Road. Roedd yr her o ail-greu'r cartref fel yr oedd ym 1914 yn un sylweddol, ac fe aeth Geoff ac Annie i chwilio am ddodrefn dros gyfnod o rai misoedd, gan gynnwys taith i Awstralia ac ambell s锚l cist car!

Mae un peth yn sicr. Drwy gynnal a chadw cof Dylan Thomas yn fyw, fe fydd cenedlaethau'r dyfodol yn cael y cyfle i flasu'r hyn oedd mor arbennig i'r bardd am ei ddinas ei hun, a'r hyn a'i ysbrydolodd i fod yn awdur a seilio cryn dipyn o'i waith ar Abertawe.



Bws 91福利社 Cymru
Lluniau
Digwyddiadau


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy