91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Delwyn Si么n Delwyn Si么n - n么l yn y dref
Mawrth 2006
Mae Delwyn Si么n, y brodor o Aberd芒r, yn brysur ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer cyngerdd arbennig iawn.
Bydd 'Delwyn Si么n a'i Ffrindiau' yn noson hwyliog ac mae'r cerddor o'r cwm, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn edrych 'mlaen yn fawr i berfformio o flaen cynulleidfa gartrefol a chyfarwydd yn Theatr Sefydliad Cwmaman.

"Ddechreues i ganu yn Aberd芒r yn y capel ac mewn cystadlaethau felly mae'n addas mod i'n mynd n么l yna ar gyfer y cyngerdd 'ma - ma' sawl blwyddyn ers i fi ganu 'na ddiwethaf a dwi'n edrych mlaen yn fawr i'r noson.

"Fe gafo ni aduniad ysgol Ynys Lwyd rhyw dair blynedd yn 么l ac o'dd hi'n gr锚t gweld yr hen griw - gobeithio ddewn nhw i'r cyngerdd hefyd - sen braf eu gweld yna."

Yn ymuno 芒 Delwyn fydd Si芒n James, Angharad Brinn sy'n canu ar ei CD ddiweddaraf, Dim ond Cariad, a Ch么r Caerdydd.

Datblygodd diddordeb Delwyn mewn cerddoriaeth pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Yno sefydlodd ei gr诺p cyntaf - Madog. Ymysg yr aelodau oedd ei gyfeillion Charlie Britton, a aeth ymlaen i fod yn ddrymiwr i Hergest ac Edward H Dafis, a Iolo Jones a chwaraewr ffidl Ar Log. Aeth Delwyn yntau ymlaen i ffurfio Omega cyn camu i'r llwyfan ar ben ei hun gyda'r git芒r yn unig yn gwmni.

Dyw hi ddim yn syndod fod Delwyn wedi cymryd at y git芒r cystal ac yntau wedi cael athro go arbennig - ei gefnder cyntaf Max Boyce.

"Ron ni'n arfer chware caneuon pop 'da'n gilydd - finne'n chware'r piano a Max ar y gitar - cyn iddo fy nysgu i sut i chwarae'r git芒r hefyd.

"..Yn ni 'rioed wedi chwarae ar y llwyfan 'da'n gilydd - dim ond yn y t欧. Pwy a 诺yr - falle alla i ei berswadio fe i ymuno 'da fi am g芒n neu ddwy yn y cyngerdd yn Aberd芒r!"

Delwyn Si么n a'i Ffrindiau: Nos Wener, 31 Mawrth, 2006 am 7.30pm yn Theatr Sefydliad Cwmaman.

Mae'r cyngerdd yn rhan o ymgyrch Yma i Chi 91福利社 Cymru yn Aberd芒r. Bydd y cyngerdd yn cael ei recordio ar gyfer 91福利社 Radio Cymru. Am docynnau yn rhad ac am ddim, ffoniwch 08703 500 700.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy