|
Sgoriodd Nick James 93 heb fod allan, gyda Will Bragg yn cyfrannu 53, wrth i Forgannwg gyrraedd cyfanswm o 210 am 5 o'u 40 pelawd. Llwyddodd bowlwyr yr ymwelwyr i gymryd tair wiced gynnar ym matiad y t卯m cartref, a disgynnodd y wiced olaf ar 149 wedi 36 pelawd. Roedd hi'n berfformiad dipyn gwell gan Forgannwg ar 么l colli o 32 rhediad i d卯m rhanbarthol North West ddydd Llun. Cyn y g锚m yna, cafwyd buddugoliaeth o chwe wiced yn erbyn Uganda yn y g锚m agoriadol. Ni chwaraeodd y capten newydd Alviro Petersen yn y gemau yma gan ei fod yn parhau o dan gytundeb gyda'i ranbarth yn Ne Affrica, Highveld Lions. Bydd y chwaraewyr yn dychwelyd i Gymru i barhau gyda'r paratoadau ar gyfer y tymor newydd. Prifysgol Caerdydd fydd y gwrthwynebwyr cyntaf mewn g锚m gyfeillgar ar 2 Ebrill, cyn i'r tymor gychwyn o ddifri yn erbyn Swydd Gaerl欧r ar 8 Ebrill ym Mhencampwriaeth y Siroedd.
 |