91¸£ÀûÉç

Explore the 91¸£ÀûÉç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91¸£ÀûÉç 91¸£ÀûÉçpage
91¸£ÀûÉç Cymru
91¸£ÀûÉç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91¸£ÀûÉç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Ysgub
criw ffermwyr ifanc Llanfyllin Llwyddiant CFfl Llanfyllin
Mawrth 2008
Mae criw ffermwyr ifanc Llanfyllin wedi bod yn ymarfer yn galed ers dechrau Ionawr ar gyfer yr Å´yl Hanner Awr o Adloniant.
Cynhaliwyd yr ŵyl yn Theatr Hafren rhwng yr 11eg a'r 16eg o Chwefror, gyda 12 o glybiau ar draws Maldwyn yn cymryd rhan.

Roedd 49 o aelodau'r clwb yn cymryd rhan ar y llwyfan yn adloniant Llanfyllin gyda llawer eraill yn gweithio tu ôl i'r llwyfan.

Enw'r adloniant oedd "A Touch of Class" a gafodd ei ysgrifennu gan Gwynfor Thomas, Llansanffraid. Ef hefyd oedd y cynhyrchydd ynghyd â Mark Watkins, Cwm Nant y Meichiaid, a Linda Jones, Dolanog.

Stori'r adloniant oedd merch newydd yn ymuno ag ysgol wrthryfelgar. Roedd y ferch yn cael ei bwlio ond ar y diwedd cafodd ei gwneud yn brif ferch ac roedd popeth yn iawn.

Cafodd Marcus Vaughan, Llanfyllin, a Catrin Jones, Penybontfawr, eu henwebu am wobrwyon a chafodd Mark Watkins, Cwm Nant y Meichiaid ei wobrwyo fel yr actor gorau dros un ar hugain oed ac actor gorau'r Å´yl.

Roedd y beirniad, sef David Hedley Williams, yn meddwl bod gan yr adloniant amrywiaeth a'i fod yn rhoi neges y stori trwy actio, canu, dawnsio a meim.

Mae'r clwb nawr yn paratoi i gynrychioli Maldwyn yng Nghystadleuaeth Adloniant Hanner Awr Cymru a fydd yn cael ei chynnal yn Theatr Hafren, Y Drenewydd ar Fawrth y 7fed a'r 8fed.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91¸£ÀûÉç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91¸£ÀûÉç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý